Mae BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus i wybod beth yw hoff air Cymraeg y rheini sy’n dysgu, neu sydd wedi dysgu Cymraeg.
Mae modd rhoi gwybod beth yw eich hoff air trwy ddilyn y ddolen yma. Dyddiad cau y pôl yw 20 Medi a bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’, sy’n cael ei chynnal ar BBC Radio Cymru ganol mis Hydref.
Bydd yr wythnos yn rhoi llwyfan i ddysgwyr Cymraeg ac yn dathlu eu cyfraniad i’r byd Cymraeg. Ymysg yr arlwy fe fydd:
-
>
Bwletin newyddion ychwanegol bob nos am 8pm ar gyfer dysgwyr
-
>
Cyfle i griw o ddysgwyr gymryd yr awenau bob prynhawn ar raglen Ifan Evans
-
>
Golygydd gwadd ar gyfer y Post Cyntaf
-
>
Podlediad gyda’r cyflwynydd Wynne Evans yn darllen o’i hunangofiant
-
>
Penodau newydd o ‘Hanes yr Iaith’ gan y prifardd Ifor ap Glyn
Bydd yr wythnos yn cyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae, ac mae’n ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Radio Cymru a’r Ganolfan.