Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Beth yw eich hoff air Cymraeg?

Beth yw eich hoff air Cymraeg?

Mae BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus i wybod beth yw hoff air Cymraeg y rheini sy’n dysgu, neu sydd wedi dysgu Cymraeg.

Mae modd rhoi gwybod beth yw eich hoff air trwy ddilyn y ddolen yma.  Dyddiad cau y pôl yw 20 Medi a bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ystod ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’, sy’n cael ei chynnal ar BBC Radio Cymru ganol mis Hydref.

Bydd yr wythnos yn rhoi llwyfan i ddysgwyr Cymraeg ac yn dathlu eu cyfraniad i’r byd Cymraeg.  Ymysg yr arlwy fe fydd:

  • >

    Bwletin newyddion ychwanegol bob nos am 8pm ar gyfer dysgwyr

  • >

    Cyfle i griw o ddysgwyr gymryd yr awenau bob prynhawn ar raglen Ifan Evans

  • >

    Golygydd gwadd ar gyfer y Post Cyntaf

  • >

    Podlediad gyda’r cyflwynydd Wynne Evans yn darllen o’i hunangofiant

  • >

    Penodau newydd o ‘Hanes yr Iaith’ gan y prifardd Ifor ap Glyn

Bydd yr wythnos yn cyd-fynd â Diwrnod Shwmae Su’mae, ac mae’n ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Radio Cymru a’r Ganolfan.