Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Bethan Gwanas, y tiwtor Cymraeg

Bethan Gwanas, y tiwtor Cymraeg

Mae Bethan Gwanas yn adnabyddus dros ben am ei llyfrau i oedolion, arddegau a phlant, a’i llyfrau i ddysgwyr sef y gyfres Blodwen Jones.  Ers creu Blodwen, mae Bethan wedi hyfforddi i fod yn diwtor Cymraeg a nawr ei bod hi wedi sgwennu Yn Ei Gwsg i’r gyfres Amdani, mae hi’n rhannu’r stori hon…

Awdures ydw i, ond yn ogystal â thrio sgwennu llyfrau, dw i’n diwtor Cymraeg. Mater o raid oedd o a bod yn onest; chwilio am ffordd arall o dalu’r biliau. Mae awduron eraill yn cael swydd sgriptio Pobol y Cwm, ond dw i ddim yn berson sebon yn anffodus. Dw i’n fwy o berson Game of Thrones.

Mae’n braf dod i nabod pobl eraill, pobl sy’n aml yn ddiddorol tu hwnt, a chan mod i’n gweithio cymaint ar fy mhen fy hun bach o flaen cyfrifiadur, mae’r cyfle i gymdeithasu fel hyn yn gwneud byd o les i mi.

Y peth gorau wnes i oedd ‘Y Cymwhyster Cenedlaethol’, oedd yn gwrs dwy flynedd. Y darn gwaethaf o’r cwrs oedd gorfod rhoi gwers fach 10 munud i’r tiwtoriaid eraill, ac ro’n i’n wirion o nerfus! Es i drwy fy ngwers ar y patrwm ‘mae gen i’ mor hurt o gyflym, ro’n i’n swnio fel reiffl AK47.

Mi gawson ni wers Groeg un tro, oedd yn dangos i ni pa mor ofnadwy o anodd ydi dysgu a chofio dim ond 4 neu 5 ffordd o ddeud ‘helo’, ‘sut dach chi’ a ‘da iawn diolch’ mewn iaith sy’n gwbl estron

Mae gen i ddau ddosbarth Cymraeg – un bob dydd Llun yn Nolgellau (lefel Sylfaen/ Canolradd) ac un yn ardal Harlech bob dydd Mawrth, un criw wedi bod yn dysgu ers blwyddyn a’r criw arall yn rai uwch, arbennig o dda, sy’n hawdd iawn eu dysgu

Ond dw i wedi cael ambell ddosbarth oedd yn anodd iawn, iawn eu dysgu, fel y mamau a’u plant bach yn fy mlwyddyn gyntaf. Ro’n i’n gorfod mynd â llond gwlad o deganau a llyfrau plant a bisgedi a stwff i wneud paned a diod oren/piws, a cheisio dysgu’r mamau tra roedd Declan yn ceisio crogi Maisie bach druan, ac wedyn ceisio tawelu’r dyfroedd rhwng mamau’r ddau. Ro’n i’n falch iawn, iawn pan ddaeth y gwersi hynny i ben!

Un broblem sy’n codi ydi bod y tiwtora ’ma’n mynd yn ’chydig o obsesiwn.  Alla i ddim gwrando ar ganeuon Cymraeg rŵan heb feddwl ‘W, tybed fyddai hon yn handi ar gyfer dysgu geirfa newydd neu “mi ges i” neu ryw batrwm tebyg?’ Ond yn aml, mae’r ynganu’n rhy niwlog, neu’r iaith yn rhy gymhleth. Ystyriwch hynny tro nesa, da chi, fandiau Cymraeg!

Y broblem fwya sydd gen i ydy mod i’n chwerthin yn hawdd iawn. Er enghraifft, ro’n i’n dysgu rhannau’r corff i’r mamau, ac wedi dysgu ‘pen’, dyma un yn deud ‘Aha! So this must be pedwar pen!’ gan bwyntio at ei thalcen...

Ac mae’r gwahaniaeth rhwng ‘rhiw’, ‘rhyw’, ‘rhaw’ a ‘rhew’ yn hwyl bob amser wrth gwrs

Dw i ddim eisiau gormod o ddosbarthiadau oherwydd dw i ddim yn ddigon trefnus i gadw mwy o ffeiliau a chofrestrau mewn trefn

Hefyd, mae gen i straeon a nofelau i’w sgwennu – awdures ydw i weddill yr wythnos. A’r llyfr diweddaraf ydy ‘Yn ei Gwsg’ – nofel ar gyfer dysgwyr cyfnod Sylfaen. Mae cariad fy nith yn blismon, ac mi ges i help gynno fo efo’r stwff plismonaidd

Gobeithio y bydd dysgwyr yn ei mwynhau; roedd o’n hwyl i’w sgwennu beth bynnag!

Crynodeb yw’r erthygl hon.  Mae’r erthygl ar gael i’w darllen yn llawn ar parallel.cymru