Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Blwyddyn o gynnydd - cyhoeddi Adroddiad Blynyddol

Blwyddyn o gynnydd - cyhoeddi Adroddiad Blynyddol

Blwyddyn o gynnydd wrth i’r Ganolfan Genedlaethol groesawu tiwtoriaid i'w chynhadledd  

Fe groesawodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol diwtoriaid o bob cwr o Gymru i’w chynhadledd genedlaethol ar ddydd Mercher, 5 Gorffennaf wrth iddi nodi ei blwyddyn weithredol gyntaf.

Daeth y Ganolfan Genedlaethol yn gyfrifol am y maes Cymraeg i Oedolion ym mis Awst 2016, ac fe lansiodd ei hadroddiad blynyddol cyntaf, sy’n nodi cynnydd y flwyddyn, yn y gynhadledd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r maes wedi’i drawsnewid dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol wrth iddi roi ar waith argymhellion adroddiad Llywodraeth Cymru Codi Golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion.

Mae cwricwlwm cenedlaethol wedi’i lunio am y tro cyntaf; mae cyrsiau newydd wedi’u datblygu a chrëwyd Safle Rhyngweithiol newydd, sy’n brif bwynt cyswllt ar gyfer dysgwyr: www.dysgucymraeg.cymru  

Yn ystod y flwyddyn, diolch i fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, cyflwynwyd ‘Cymraeg Gwaith/Work Welsh’, rhaglen arloesol i gefnogi pobl i ddysgu Cymraeg yn y gweithle.

Ffurfiwyd nifer o bartneriaethau hefyd, gan gynnwys gŵyl newydd sbon ar gyfer dysgwyr o’r enw Ar Lafar, a drefnwyd ar y cyd gydag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ddiweddar, croesawodd y Ganolfan Genedlaethol gasgliadau adolygiad gan Estyn ar ei gwaith.

Yn ôl Adolygiad o waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae sefydlu Canolfan Genedlaethol i symleiddio’r ddarpariaeth wedi bod yn llwyddiannus.  Mae’r Ganolfan Genedlaethol wedi helpu darparu cyfeiriad strategol clir ac mae wedi gwneud cynnydd o ran dod â mwy o gysondeb mewn dulliau i ddatblygu’r cwricwlwm, casglu data ac asesu.

Yn ogystal ag adolygu datblygiadau’r flwyddyn, bu nifer o siaradwyr gwadd o bwys yn annerch y gynhadledd, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.  Yn eu plith, roedd yr Athro Michael McCarthy, Athro Emeritws Ieithyddiaeth Gymhwysol, Prifysgol Nottingham.

Wnaeth yr Athro McCarthy drafod gramadeg llafar; testun sgwrs y bardd a’r awdur, Ceri Wyn Jones, oedd ‘Mynd a dod mewn dwy iaith!’ Wnaeth Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, siarad hefyd.

Meddai Alun Davies:

“Mae darpariaeth Cymraeg i Oedolion yn rhan bwysig o nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae’r cyfeiriad strategol a osodir gan y Ganolfan Genedlaethol eisoes wedi gwella cysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru.

“Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Ganolfan Genedlaethol a’i darparwyr i feithrin cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu Cymraeg.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi bod yn awyddus i greu un ganolfan y mae pawb yn gallu teimlo’n rhan ohoni. Rydym wedi gosod gweithdrefnau yn eu lle er mwyn rhannu arfer dda ac wedi datblygu polisïau newydd a fydd yn ein cynorthwyo i godi safonau.

“Mawr yw fy niolch i’r holl diwtoriaid sydd wedi cynnig anogaeth wych i’n dysgwyr ac i’r darparwyr sydd wedi cynllunio rhaglen lawn o hyfforddiant ar ran y Ganolfan.

“’Ryn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y seiliau cadarn hyn er mwyn sicrhau bod oedolion ledled Cymru yn cael y profiadau gorau wrth ddysgu’r Gymraeg.”

Diwedd