Dych chi eisiau cwrdd â dysgwyr eraill am sgwrs bob bore yn ystod yr Eisteddfod AmGen fydd yn cael ei chynnal rhwng 1-8 Awst?
Pwrpas Bore Coffi, sy’n rhan o arlwy’r Pentref Dysgu Cymraeg rhithiol, yw cynnig cyfle i ddysgwyr ar wahanol lefelau, o lefel Mynediad i Uwch, ymarfer eu Cymraeg am 10 o’r gloch bob dydd.
Dewch i ymuno yn yr hwyl a sgwrsio gyda dysgwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Bydd angen archebu eich lle trwy gwblhau’r ffurflen hon a nifer o lefydd cyfyngedig sy ar gael felly cyntaf i’r felin.
Mae nifer o ddigwyddiadau diddorol wedi’u trefnu ar gyfer y Pentref Dysgu Cymraeg yn yr Eisteddfod AmGen. Yn eu plith mae sesiynau blasu i ddechreuwyr a sesiynau codi hyder yn ogystal â chyfle i glywed awduron poblogaidd yn darllen straeon newydd i ddysgwyr.
Mae mwy o wybodaeth am yr Eisteddfod AmGen ar gael yma.