BT yn cofrestru ar gyfer ‘Cymraeg Gwaith’
BT Cymru/Wales yw’r cwmni sector preifat cyntaf i gofrestru ar gyfer ‘Cymraeg Gwaith’, rhaglen addysgu newydd i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, sydd wedi’i llunio gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae disgwyl i hyd at 300 o gyflogeion BT Cymru, yn swyddfeydd y cwmni yng Nghaerdydd ac Abertawe, ddilyn y rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’, sydd wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer BT.
Mae ystod o gyrsiau ar gael, wedi’u lleoli yn y gweithle, yn ogystal â chwrs ar-lein 10 awr o hyd sy’n cyflwyno’r iaith. Mae’r cyrsiau yn addas ar gyfer dysgwyr ar wahanol lefelau, p’un ai’n gwbl newydd i’r Gymraeg neu’n siaradwyr mwy profiadol.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd hyfforddiant ar gyfer mentoriaid yn y gweithle, sesiynau gwybodaeth am y Gymraeg ac ymweliadau misol. Bydd seremoni wobrwyo hefyd yn cael ei chynnal ym mis Mawrth 2018 i ddathlu llwyddiannau’r staff.
Meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru/Wales:
“Mae gan BT bresenoldeb sylweddol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn i fod y cyflogwr mawr cyntaf yn y sector preifat i weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar y rhaglen newydd yma.
“Bydd y rhaglen yn cefnogi datblygiad proffesiynol ein gweithwyr ac yn rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt.”
Meddai Dan Hawkes, sy’n gweithio fel rheolwr i BT Consumer yn Abertawe, ac sy’n mynd i ddilyn cwrs ‘Cymraeg Gwaith’:
“Dw i bob amser wedi bod eisiau dysgu Cymraeg. Mae llawer o fy ffrindiau a’u plant yn siarad yr iaith, ac er mod i’n deall ambell i air, dw i bob amser wedi eisiau gallu sgwrsio â nhw.
“Yn y pen draw, hoffwn fod yn rhugl a dw i’n annog unrhyw un sydd eisiau cymryd y cam anodd cyntaf hwnnw i ddysgu rhywbeth newydd i fynd amdani – byddwch yn synnu faint dych chi’n gwybod yn barod. Mae ffrindiau a chydweithwyr bob amser yn hapus i helpu a dw i wrth fy modd bod BT yn rhoi’r cyfle hwn i’w gweithwyr.”
Meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig pecyn o gyrsiau Cymraeg hyblyg, wedi’u hariannu’n llwyr, y mae modd eu teilwra ar gyfer anghenion gwahanol sectorau a gweithleoedd unigol.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda BT Cymru i gryfhau sgiliau eu gweithwyr.”
Diwedd
Nodyn i’r golygydd
- Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am bob agwedd ar y rhaglen dysgu Cymraeg i oedolion. Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn gorff hyd braich, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
- Mae dros 3,000 o gyflogeion a 150 o gyflogwyr wedi cofrestru ar gyfer cwrs ar-lein ‘Cymraeg Gwaith’.
- Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ ar gael yma.
21.12.17
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â hannah.thomas@dysgucymraeg.cymru