Bydd dros 150 o ddysgwyr yn dod ynghyd i drin a thrafod llyfrau cyfres ‘Amdani’ nos Fercher 6 Mawrth 2024, a hynny yng nghwmni rhai o awduron y gyfres megis Mared Lewis a Pegi Talfryn.
Bydd y clwb darllen yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Ddarllen Amdani, sef yr ŵyl rithiol i ddysgwyr Cymraeg sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Sefydlwyd yr ŵyl yn 2021 yn sgil llwyddiant y gyfres o lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’, ac eleni mae’n cael ei chynnal rhwng 4-8 Mawrth.
Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gynnal clwb darllen, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Mae Pegi Talfryn, awdur ‘Y Llyfr,’ un o lyfrau lefel Sylfaen y gyfres, yn edrych ymlaen at y noson.
Mae darllen llyfr mewn iaith newydd bob amser yn rhoi boddhad mawr i ddysgwyr, ac yn fodd o roi hyder ychwanegol iddynt. Ond mae cael y cyfle i drafod y llyfr gyda phobl eraill, yn troi’r iaith yn iaith fyw. Dw i’n edrych ymlaen at glywed yr hyn fydd gan y dysgwyr i’w ddweud am y nofel.
Bydd ystod o weithgareddau yn cael eu cynnal yn rhithiol drwy gydol yr wythnos gan gynnwys gweithdy ysgrifennu yng nghwmni’r awdur a’r cyflwynydd adnabyddus, Anni Llŷn. Bwriad y sesiwn yw ceisio ysgogi dysgwyr i ysgrifennu cân a’i chanu ar ddiwedd y gweithdy.
Yn ychwanegol, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn cyhoeddi cyfweliadau gyda awduron, ac yn enwi enillwyr cystadleuaeth adolygu llyfr Gŵyl Amdani. Bydd holl adolygiadau’r gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi ar wefan gwales.com Cyngor Llyfrau Cymru.
Dyn ni’n gyffrous iawn i gynnal y clwb darllen, ac yn gobeithio y bydd y sesiwn yn annog ein dysgwyr i roi cynnig ar rai o lyfrau eraill y gyfres. Bydd yn ffordd wych o ddathlu llwyddiant cyfres Amdani, sy wedi bod mor boblogaidd gyda’n dysgwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn ddiolch i’r awduron am ymuno gyda ni, yn ogystal â Lingo360 a Chyngor Llyfrau Cymru am gefnogi’r ŵyl unwaith yn rhagor eleni.
Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol