![Cannoedd yn dathlu darllen mewn clwb llyfrau cenedlaethol](/media/16742/amdani-1.jpg?anchor=center&mode=crop&width=780&height=400&rnd=133535891700000000)
Bydd dros 150 o ddysgwyr yn dod ynghyd i drin a thrafod llyfrau cyfres ‘Amdani’ nos Fercher 6 Mawrth 2024, a hynny yng nghwmni rhai o awduron y gyfres megis Mared Lewis a Pegi Talfryn.
Bydd y clwb darllen yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Ddarllen Amdani, sef yr ŵyl rithiol i ddysgwyr Cymraeg sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Sefydlwyd yr ŵyl yn 2021 yn sgil llwyddiant y gyfres o lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’, ac eleni mae’n cael ei chynnal rhwng 4-8 Mawrth.
Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gynnal clwb darllen, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Mae Pegi Talfryn, awdur ‘Y Llyfr,’ un o lyfrau lefel Sylfaen y gyfres, yn edrych ymlaen at y noson.
Mae darllen llyfr mewn iaith newydd bob amser yn rhoi boddhad mawr i ddysgwyr, ac yn fodd o roi hyder ychwanegol iddynt. Ond mae cael y cyfle i drafod y llyfr gyda phobl eraill, yn troi’r iaith yn iaith fyw. Dw i’n edrych ymlaen at glywed yr hyn fydd gan y dysgwyr i’w ddweud am y nofel.
Bydd ystod o weithgareddau yn cael eu cynnal yn rhithiol drwy gydol yr wythnos gan gynnwys gweithdy ysgrifennu yng nghwmni’r awdur a’r cyflwynydd adnabyddus, Anni Llŷn. Bwriad y sesiwn yw ceisio ysgogi dysgwyr i ysgrifennu cân a’i chanu ar ddiwedd y gweithdy.
Yn ychwanegol, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn cyhoeddi cyfweliadau gyda awduron, ac yn enwi enillwyr cystadleuaeth adolygu llyfr Gŵyl Amdani. Bydd holl adolygiadau’r gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi ar wefan gwales.com Cyngor Llyfrau Cymru.
![Y Llyfr Pegi Talfryn](/media/16743/y-llyfr-darllen-amdani.jpg)
Dyn ni’n gyffrous iawn i gynnal y clwb darllen, ac yn gobeithio y bydd y sesiwn yn annog ein dysgwyr i roi cynnig ar rai o lyfrau eraill y gyfres. Bydd yn ffordd wych o ddathlu llwyddiant cyfres Amdani, sy wedi bod mor boblogaidd gyda’n dysgwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn ddiolch i’r awduron am ymuno gyda ni, yn ogystal â Lingo360 a Chyngor Llyfrau Cymru am gefnogi’r ŵyl unwaith yn rhagor eleni.
Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol