#cariadcymraeg #lovewelsh
Dathlu dysgu Cymraeg
Wrth i barau ledled Cymru ddathlu Dydd Santes Dwynwen, mae un cwpl o Sir Benfro, sydd newydd briodi, wedi bod yn egluro sut mae dysgu Cymraeg wedi newid eu bywydau.
Mae Helen wedi bod yn dysgu Cymraeg ers nifer o flynyddoedd ac yn gweithio fel tiwtor; mae ei gŵr, André Reemers, sy’n dod o’r Iseldiroedd, yn dysgu Cymraeg, ac fe ofynodd i Helen ei briodi yn Gymraeg, ar ôl i’r ddau cael eu swyno gan yr iaith.
Eglura André: “Gofynais i Helen fy mhriodi yn Gymraeg, ar ôl defnyddio Google i gyfieithu, a arweiniodd at ‘ddarlith’ ar dreigladau - yn amlwg wedi colli pwynt fy nghwestiwn! Yn ffodus, fe gymrodd hi seibiant a dywedodd ie wedi’r cwbl."
Dechreuodd Helen ddysgu Cymraeg yn 2001 pan oedd salwch yn golygu ei bod wedi symud adref i fferm y teulu yn Sir Benfro.
Dywedodd Helen: “Bues i’n sâl iawn yn 2000 pan oeddwn i'n gweithio i'r BBC fel newyddiadurwraig. Symudais i Sir Benfro er mwyn gwella gyda fy rhieni. Symudodd fy rhieni i Sir Benfro ym 1993 o Henffordd. Roeddwn i'n teimlo'n isel iawn a chollais fy hyder. Awgrymodd Mam i mi ddysgu Cymraeg, felly fe es i ddosbarth yn Nhyddewi ac yn gyflym iawn cefais fodd i fyw wrth ddysgu’r iaith. Yn 2006, fe gyrhaeddais y pedwar olaf yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Dw i’n mwynhau perfformio, ac enillais y gystadleuaeth Llefaru Unigol i Ddysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018. Dw i’n edrych ymlaen at gystadlu eto yn Llanrwst eleni.
Priododd André a Helen fis Medi 2018. Mae André yn dilyn Cwrs Mynediad gyda Helen yn Abergwaun. Meddai hi, “Mae'n wych cael André yn fy nosbarth. Mae'n siarad Saesneg, Almaeneg ac Iseldireg wrth gwrs! Felly mae'n dda iawn gyda'r Gymraeg ac mae'n benderfynol o fod yn rhugl, ond mae e’n ddrygionus iawn yn y dosbarth drwy’r amser! Bellach mae Andre yn medru defnyddio Cymraeg yn ei waith, ac yn y cartref gyda fi.”
Dywedodd André: "Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig o leiaf i geisio dysgu iaith y wlad yr wyf yn byw ynddi. Er mai Saesneg yw'r iaith fwyaf cyffredin yn Sir Benfro, rwy'n credu y dylid gwneud pob ymdrech i ddiogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mae hefyd o fudd i mi yn fy ngweithle wrth gefnogi pobl sydd â Chymraeg fel iaith gyntaf.
"Gyda’m gwraig yn diwtor, mae'n wir o gymorth i mi gan ein bod yn gallu defnyddio mwy o Gymraeg gartref. Mae Helen, fel dysgwraig, wedi dangos i mi faint y gall gyfoethogi eich bywyd ac agor cyfleoedd newydd.
"Rydym yn ymarfer gyda'n gilydd, a dwi’n mwynhau medru defnyddio mwy a mwy o Gymraeg a chadw i ymarfer. Dw i hefyd yn dechrau sgyrsiau yn Gymraeg a bydd Helen yn ymateb yn Gymraeg. Y peth mwyaf anodd am ddysgu Cymraeg yw dod i’r arfer gyda geiriau am bethau unigol sy’n aml yn hirach na’r geiriau lluosog!”
Meddai Kevin Davies, Pennaeth Dysgu Cymraeg Sir Benfro, un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae yna lawer o resymau pam fod pobl yn dysgu Cymraeg - ac mae'n amlwg inni fod pobl yn aml yn dysgu am resymau rhamantus!”
Cliciwch yma i wrando ar gyfweliad Helen gyda Shan Cothi ar ddydd Santes Dwynwen. Mae'r cyfweliad tua awr a 50 munud i mewn i'r rhaglen.