Llun buddugol cystadleuaeth Ar Lafar 2020
Llongyfarchiadau mawr i Carole Gowers o Gaernarfon, sy wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth Ar Lafar 2020, gyda’i llun hyfryd o Lyn Nantlle Uchaf (uchod).
Symudodd Carole i Gymru ym mis Hydref 2016 a dechreuodd ddysgu Cymraeg rhan amser yn y mis Tachwedd. Mae Carole yn dysgu gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, ac mae’n parhau i fynychu ei dosbarth, dros Skype, am un awr yr wythnos.
Fe dynnodd y llun gyda’i chamera Canon 550D, oedd yn anrheg gan ei diweddar dad. Mae Carole wrth ei bodd y tu allan yn yr awyr agored yn tynnu lluniau. Mae gyda hi diddordeb mewn popeth naturiol, yn enwedig tynnu lluniau o’r golygfeydd bendigedig yn ei hardal a ffotograffiaeth agos o adar, pryfed a phlanhigion.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru; y beirniad oedd y ffotograffydd Nick Treharne. Mae’n bosib mwynhau arddangosfa Nick yn y Llyfrgell ar-lein.