Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Enillydd Ar Lafar 2020

Enillydd Ar Lafar 2020
Llyn Nantlle Uchaf

Llun buddugol cystadleuaeth Ar Lafar 2020

Llongyfarchiadau mawr i Carole Gowers o Gaernarfon, sy wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth Ar Lafar 2020, gyda’i llun hyfryd o Lyn Nantlle Uchaf (uchod).

Symudodd Carole i Gymru ym mis Hydref 2016 a dechreuodd ddysgu Cymraeg rhan amser yn y mis Tachwedd.  Mae Carole yn dysgu gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, ac mae’n parhau i fynychu ei dosbarth, dros Skype, am un awr yr wythnos.

Fe dynnodd y llun gyda’i chamera Canon 550D, oedd yn anrheg gan ei diweddar dad.  Mae Carole wrth ei bodd y tu allan yn yr awyr agored yn tynnu lluniau.  Mae gyda hi diddordeb mewn popeth naturiol, yn enwedig tynnu lluniau o’r golygfeydd bendigedig yn ei hardal a ffotograffiaeth agos o adar, pryfed a phlanhigion.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru; y beirniad oedd y ffotograffydd Nick Treharne.  Mae’n bosib mwynhau arddangosfa Nick yn y Llyfrgell ar-lein.

Carole Gowers