Mae CBAC, y sefydliad dyfarnu cenedlaethol, wedi ennill marc ansawdd ALTE, sef y Gymdeithas i Brofwyr Ieithoedd ar draws Ewrop, neu’r Association of Language Testers in Europe. Bydd CBAC felly’n parhau i fod yn aelod llawn o ALTE, yng nghyd-destun yr arholiadau Dysgu Cymraeg.
Er mwyn bod yn aelod o ALTE, rhaid i CBAC fynd drwy awdit ansawdd trylwyr bob pum mlynedd, sy’n archwilio pob agwedd ar waith y sefydliad.
Bydd arholiadau’r sector Dysgu Cymraeg felly ar fframwaith ALTE, ochr yn ochr ag arholiadau ar gyfer 25 o ieithoedd Ewropeaidd gwahanol, yn ogystal â 35 o sefydliadau blaenllaw ym maes asesu ieithoedd. Yn eu plith mae Prifysgolion Caergrawnt a Salamanca a’r mudiad diwylliannol, y Goethe-Institut.
Dywedodd Emyr Davies, Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC: ‘‘Mae cyflawni gofynion ALTE yn dangos bod ansawdd ein harholiadau gyfuwch ag arholiadau mewn ieithoedd eraill ar draws Ewrop. Mae’n dyst hefyd i waith caled arholwyr, tiwtoriaid a’r ymgeiswyr sy’n dewis sefyll y profion.’’
Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: ‘‘Hoffwn longyfarch CBAC ar dderbyn marc ansawdd safon ALTE yn dilyn awdit manwl. Edrychwn ymlaen at gydweithio â hwy wrth iddynt barhau i gynnal a gweinyddu arholiadau ar ran y sector Dysgu Cymraeg ar draws Cymru.”
Ceir rhagor o wybodaeth am arholiadau’r sector Dysgu Cymraeg ar wefan CBAC ac mae gwybodaeth am weithgareddau ALTE ar gael yma. Noddir gwaith CBAC yn y maes hwn gan Lywodraeth Cymru, trwy Gymwysterau Cymru.