Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

CBAC yn ennill marc ansawdd yng nghyd-destun yr arholiadau Dysgu Cymraeg

CBAC yn ennill marc ansawdd yng nghyd-destun yr arholiadau Dysgu Cymraeg

Mae CBAC, y sefydliad dyfarnu cenedlaethol, wedi ennill marc ansawdd ALTE, sef y Gymdeithas i Brofwyr Ieithoedd ar draws Ewrop, neu’r Association of Language Testers in Europe.  Bydd CBAC felly’n parhau i fod yn aelod llawn o ALTE, yng nghyd-destun yr arholiadau Dysgu Cymraeg.

Er mwyn bod yn aelod o ALTE, rhaid i CBAC fynd drwy awdit ansawdd trylwyr bob pum mlynedd, sy’n archwilio pob agwedd ar waith y sefydliad. 

Bydd arholiadau’r sector Dysgu Cymraeg felly ar fframwaith ALTE, ochr yn ochr ag arholiadau ar gyfer 25 o ieithoedd Ewropeaidd gwahanol, yn ogystal â 35 o sefydliadau blaenllaw ym maes asesu ieithoedd.  Yn eu plith mae Prifysgolion Caergrawnt a Salamanca a’r mudiad diwylliannol, y Goethe-Institut.

Dywedodd Emyr Davies, Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC:  ‘‘Mae cyflawni gofynion ALTE yn dangos bod ansawdd ein harholiadau gyfuwch ag arholiadau mewn ieithoedd eraill ar draws Ewrop.  Mae’n dyst hefyd i waith caled arholwyr, tiwtoriaid a’r ymgeiswyr sy’n dewis sefyll y profion.’’

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  ‘‘Hoffwn longyfarch CBAC ar dderbyn marc ansawdd safon ALTE yn dilyn awdit manwl.  Edrychwn ymlaen at gydweithio â hwy wrth iddynt barhau i gynnal a gweinyddu arholiadau ar ran y sector Dysgu Cymraeg ar draws Cymru.” 

Ceir rhagor o wybodaeth am arholiadau’r sector Dysgu Cymraeg ar wefan CBAC ac mae gwybodaeth am weithgareddau ALTE ar gael yma.  Noddir gwaith CBAC yn y maes hwn gan Lywodraeth Cymru, trwy Gymwysterau Cymru.