Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cefnogi gweithwyr Gofal Plant gyda’u sgiliau Cymraeg wrth i'r galw am ddarpariaeth ddwyieithog gynyddu

Cefnogi gweithwyr Gofal Plant gyda’u sgiliau Cymraeg wrth i'r galw am ddarpariaeth ddwyieithog gynyddu

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ehangu ei darpariaeth ar gyfer y Gweithlu Gofal Plant gyda chynllun peilot newydd i gryfhau sgiliau Cymraeg y gweithlu ac ateb y galw cynyddol am wasanaethau dwyieithog.

Gyda Gofal Plant yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth newydd, bydd y cynllun yn adeiladu ar waith blaenorol y Ganolfan â’r sector.  Bydd yn cefnogi Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) drwy gryfhau’r sylfeini ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg y dyfodol.

Ers 2017, mae'r Ganolfan wedi darparu hyfforddiant Cymraeg i’r gweithlu Gofal Plant, ac mae dros 5,000 o weithwyr wedi manteisio ar y ddarpariaeth hyd yma.

Gyda miloedd mwy yn gweithio yn y sector yng Nghymru, bydd cynllun peilot newydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar gynyddu capasiti’r gweithlu i allu darparu cefnogaeth Gofal Plant yn y Gymraeg.  Bydd y cynllun yn cynnwys:

  • Cynnal rhaglen Dysgu Cymraeg i’r gweithlu sy’n cefnogi myfyrwyr mewn colegau addysg bellach neu drwy brentisiaethau;

  •  Penodi tiwtoriaid Dysgu Cymraeg i weithio’n uniongyrchol â darpariaethau Gofal Plant, boed yn feithrinfeydd neu’n warchodwyr unigol;

  • Penodi tiwtoriaid Dysgu Cymraeg i weithio â gweithwyr Chwarae mewn darpariaethau Gofal Plant y tu allan i’r ysgol, mewn ardaloedd penodol;

  • Darparu hyfforddiant Cymraeg i weithwyr ‘Dechrau'n Deg’, sy’n cefnogi plant ifanc a’u teuluoedd mewn ardaloedd penodol.

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, sy'n gyfrifol am ofal plant, Sioned Williams:

Rydyn ni’n cyflwyno cynnig gofal plant trawsnewidiol a fydd y mwyaf hael yn y DU, gan roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn. Mae buddsoddi mewn gofal plant yn un o’r camau mwyaf pwerus y gallwn eu cymryd i gryfhau ein heconomi, gwella safonau byw a sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i blant. Rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr a phartneriaid i ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg fel rhan greiddiol o’n cynnig cyffredinol, a fydd yn galluogi mwy o blant i gael mynediad at ofal plant cyfrwng Cymraeg o oedran ifanc a chryfhau’r llwybr i addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Mae cyrraedd o leiaf filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus, yn ganolog i weledigaeth y Llywodraeth hon. Bydd y cynllun peilot newydd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn helpu i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu gofal plant, gan gefnogi’r gwaith o feithrin siaradwyr Cymraeg y dyfodol o ddechrau eu bywydau.

Ychwanegodd Jane O'Toole, Prif Weithredwr Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs:

Dyn ni’n croesawu'r peilot yma, fydd yn cryfhau sgiliau Cymraeg y gweithlu Chwarae ac yn helpu mwy o blant a theuluoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol trwy chwarae. Mae lleoliadau gofal plant y tu allan i oriau ysgol mewn sefyllfa arbennig o dda i wneud y Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd pob dydd plant. Trwy fuddsoddi mewn gweithwyr Chwarae ac ymarferwyr gofal plant, bydd y bartneriaeth hon yn cryfhau hyder ac yn adeiladu capasiti y sector, gan gefnogi Cymru lle mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb.

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

Mae'r blynyddoedd cynnar yn gyfnod hollbwysig pan fydd plant ifanc yn cychwyn ar eu taith iaith, ac mae gweithwyr y sector yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin a chefnogi sgiliau dwyieithog y dyfodol. Bydd y cynllun peilot newydd yn gwneud defnydd o arbenigedd dysgu a chaffael iaith y Ganolfan, ynghyd â’i phartneriaid, i gynyddu capasiti yn y sector er mwyn sicrhau bod mwy o blant a theuluoedd yn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.