Cerddoriaeth Gymraeg yn denu pobl at yr iaith

Cerddoriaeth Gymraeg yn denu pobl at yr iaith

Gyda Dydd Miwsig Cymru ar y gorwel (10 Chwefror 2017), mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn holi unigolion a ysbrydolwyd i ddysgu’r Gymraeg trwy wrando ar gerddoriaeth Gymraeg.  Dyma stori Debs Williams:

Debs Williams

Yn wreiddiol o Lundain, aeth Debs Williams, sydd bellach yn byw gyda’i gŵr, Dewi yng Ngwynedd, ati i ddysgu’r Gymraeg ar ôl clywed cerddoriaeth Gorky’s Zykotic Mynci.   Cymaint oedd cariad Debs at gerddoriaeth Gymraeg fel yr aeth ati i sefydlu cylchgrawn ‘Welsh Bands Weekly’. Mae eleni yn nodi ugain mlynedd ers sefydlu’r cylchgrawn ac mae Debs yn bwriadu rhoi hen rifynnau ar y we i bobl gael eu darllen ym mhobman.

Sut wnes di glywed cerddoriaeth y Gorky’s gyntaf oll?

Fe glywais i’r Gorky’s am y tro cyntaf mewn gig yn Llundain.  Fe ges i fy swyno gan eu cerddoriaeth – ond doeddwn i ddim yn deall y geiriau. Dim ond un peth oedd amdani – mynd ati i ddysgu’r Gymraeg er mwyn cael deall caneuon y Gorky’s a grwpiau Cymraeg eraill.

Sut y gwnaeth cerddoriaeth y Gorky’s dy helpu i ddysgu Cymraeg?

Trwy’r Gorky’s fe ddes i i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg gan artistiaid o bob rhan o Gymru, oedd yn fy helpu i ddysgu geiriau newydd. Roedd gwrando ar ‘Anweledig’ yn ffordd o ddysgu mwy o eiriau gogleddol!

Sut mae cerddoriaeth Gymraeg a dysgu’r iaith wedi newid dy fywyd?

Wedi i mi wahanu o’m gŵr cyntaf, ro’n i’n chwilio am ddiddordeb a rhywbeth i lenwi fy amser. Fe ddes i ar draws cerddoriaeth Gymraeg a phenderfynu dysgu’r iaith.  Pan oedd fy merch, Emily, yn 10 mlwydd oed, symudom i fyw yn Nhrefor. Yn 2002 priodais â Dewi, ac erbyn hyn dw i’n nain i Jacob a Nicolas, sydd hefyd yn medru’r Gymraeg ac yn byw yn Nhalysarn.

Beth sy’n apelio fwyaf atat ti am gerddoriaeth Gymraeg?

Sŵn geiriau caneuon Cymraeg sy’n apelio ata’ i fwyaf. Mae ‘na farddoniaeth mewn caneuon Cymraeg nad yw’n bodoli mewn ieithoedd eraill yn fy marn i. Erbyn hyn dw i’n mwynhau bod yn rhan o’r gymuned leol, ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda fy nheulu-yng-nghyfraith o’r gogledd, gyda fy merch a’i gŵr, a’m hwyrion. Dw i hefyd yn gweld y budd sydd i ddefnyddio’r iaith bob dydd yn y gwaith wrth siarad gyda chwsmeriaid fy nghwmni marchnata sydd wedi ei leoli yng Nglynnog Fawr ger Caernarfon.

Beth yw dy gyngor i ddysgwyr eraill?

Daliwch ati, hyd yn oed os yw’n teimlo’n anodd ar adegau. Er bod pethau fel y treigladau yn swnio’n gymhleth, yn sydyn iawn, mae’r cyfan yn dod i wneud synnwyr!

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg ewch i dysgucymraeg.cymru