Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cerddoriaeth y ‘Super Furry Animals’ yn ysbrydoli Almaenwr i ddysgu’r Gymraeg

Cerddoriaeth y ‘Super Furry Animals’ yn ysbrydoli Almaenwr i ddysgu’r Gymraeg
Lars

Fe wnaeth Lars Kretschmer, sy’n wreiddiol o Großräschen yn yr Almaen, glywed cerddoriaeth y Super Furry Animals am y tro cyntaf pan oedd yn ei arddegau, a phenderfynu dysgu mwy am y Gymraeg. Wedi clywed aelodau’r band yn siarad yr iaith ar orsaf radio yn yr Almaen ym 1996, penderfynodd ei dysgu.

Aeth Lars ati i ddilyn cwrs dysgu Cymraeg yn yr Almaen yn gyntaf, a bu’n mwynhau dosbarthiadau nos wythnosol gyda thiwtor Cymraeg mewn coleg i oedolion yno.

Daeth i Gymru i fyw am y tro cyntaf yn 2010 er mwyn dilyn cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth a chael bod yn athro. Cafodd gyfle i gymdeithasu, i wneud ffrindiau da a oedd yn Gymry Cymraeg, a chael byw bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn mae Lars yn byw yn Saltney Ferry ger Caer, ac yn mynychu cwrs Lefel Uwch yn Wrecsam bob nos Lun. Caiff y cwrs ei drefnu gan Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, a’i redeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan Goleg Cambria.

“Dw i wrth fy modd gyda cherddoriaeth o bob math,” meddai Lars, “ond pan wnes i glywed caneuon y ‘Super Furries’ am y tro cyntaf, a chlywed aelodau’r band yn siarad iaith nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod oedd yn bodoli, ro’n i eisiau dysgu mwy amdanynt, am eu cerddoriaeth, ac am y Gymraeg.

Ychwanegodd: “Roedd cael treulio amser yn astudio ac yn byw yn nhref Aberystwyth yn brofiad da iawn, ac fe wnes i lawer o ffrindiau a oedd yn fodlon siarad Cymraeg â fi drwy’r amser. Mae’n bwysig iawn pan dych chi’n dysgu iaith i fedru defnyddio’r iaith honno bob dydd. Pan o’n i’n mynd i mewn i ysgolion yn yr ardal fel rhan o’m cwrs TAR ro’n i wrth fy modd yn trafod cysylltiadau rhwng yr Almaeneg a’r Gymraeg gyda’r disgyblion yn y dosbarth. Roedd yn ddiddorol dros ben,” meddai Lars.  

Er mai yng Nghaer y mae Lars yn gweithio bellach, mae’n manteisio ar bob cyfle posib i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth.

“Mae’r pynciau dan ni’n eu hastudio fel rhan o’r cwrs Lefel Uwch yn ddiddorol. Mae digon o gyfle i sgwrsio gyda’r dysgwyr eraill yn y dosbarth, a dw i’n dysgu geiriau newydd drwy’r amser.”

Mae’n parhau i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg o bob math gan deithio i weld cerddorion fel Gruff Rhys, Gareth Bonello, Georgia Ruth a Bitw yn canu’n fyw mewn lleoliadau ar draws Cymru.

 

Mae gwrando ar gerddoriaeth a cherddoriaeth Gymraeg yn enwedig yn fy ngwneud i’n hapus – a dw i’n meddwl mai ‘hapusrwydd’ yw fy hoff air Cymraeg. Y cyngor gorau y gallwn i ei roi i unrhyw un sy’n dysgu’r iaith yw i ddefnyddio ychydig bach mwy o’r iaith bob dydd. Rhowch gynnig ar ddysgu rhywbeth newydd drwy’r amser, ac os na fyddwch chi’n deall bob gair bob amser, daliwch ati i ddysgu!

Lars Kretschmer