Fideos Clwb Cwtsh
Mae Lowri Delve, cyn gyflwynydd ‘Cyw’ ac athrawes plant bach brofiadol, wedi cyflwyno cyfres o fideos ‘Clwb Cwtsh’ sy ar gael i'w gwylio trwy ddilyn y lincs isod.
Mae’r fideos yn rhan o’r ‘Clwb Cwtsh’, cynllun ar y cyd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin i helpu rhieni a gofalwyr plant ifanc ddysgu Cymraeg.
Mae'r fideos yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a chaneuon syml. Mae'r fideos hefyd ar gael ar dudalen YouTube y Ganolfan.
Dyma Lowri yn rhoi bach o’i hanes:
“Cefais fy magu yn Rhuddlan, sy’n bentref yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Dechreuais fy ngyrfa fel athrawes cynradd yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, cyn derbyn swydd fel cyflwynydd teledu i S4C.
“Bues i’n cyflwyno sawl rhaglen i blant, gan gynnwys y rhaglen feithrin ‘Planed Plant Bach’, ‘Bws Parti’ ‘Dwdlam’ a ‘Darllen ’da Fi’. Bues i’n gynhyrchydd ar wasanaeth ‘Cyw’ S4C i blant bach, gan ddatblygu a sgriptio’r gyfres ‘Twm Tisian’.
“Ar ôl deg mlynedd yn y diwydiant teledu, fe ddychwelais i fyd addysg fel athrawes yn y Dosbarth Derbyn. Dw i’n byw nawr yn y Barri ac yn mwynhau fy swydd fel athrawes Blwyddyn 2 yn Ysgol Gwaun y Nant.
“Dw i’n briod ac mae gen i ddwy o ferched. Dw i’n berson sy’n famol iawn a dw i hapusa’ pan fydda i’n treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau.
“Dw i wrth fy modd gyda phlant bach ac yn cael llawer o bleser wrth feddwl am gynnwys fydd yn eu diddori. Mae fy mhrofiad dyddiol o fod gyda phlant wedi sbarduno sawl syniad - dw i’n teimlo’n gyffrous ac yn frwdfrydig ynglŷn â chael cyflwyno’r fideos yma ar gyfer cynulleidfa Clwb Cwtsh a Mudiad Meithrin.”