Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Clwb Cwtsh

Clwb Cwtsh

Fideos Clwb Cwtsh

Mae Lowri Delve, cyn gyflwynydd ‘Cyw’ ac athrawes plant bach brofiadol, wedi cyflwyno cyfres o fideos ‘Clwb Cwtsh’ sy ar gael i'w gwylio trwy ddilyn y lincs isod.

Mae’r fideos yn rhan o’r ‘Clwb Cwtsh’, cynllun ar y cyd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin i helpu rhieni a gofalwyr plant ifanc ddysgu Cymraeg.

Mae'r fideos yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a chaneuon syml.  Mae'r fideos hefyd ar gael ar dudalen YouTube y Ganolfan.

Dyma Lowri yn rhoi bach o’i hanes:

“Cefais fy magu yn Rhuddlan, sy’n bentref yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Dechreuais fy ngyrfa fel athrawes cynradd yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, cyn derbyn swydd fel cyflwynydd teledu i S4C.

“Bues i’n cyflwyno sawl rhaglen i blant, gan gynnwys y rhaglen feithrin ‘Planed Plant Bach’, ‘Bws Parti’ ‘Dwdlam’ a ‘Darllen ’da Fi’.  Bues i’n gynhyrchydd ar wasanaeth ‘Cyw’ S4C i blant bach, gan ddatblygu a sgriptio’r gyfres ‘Twm Tisian’.

“Ar ôl deg mlynedd yn y diwydiant teledu, fe ddychwelais i fyd addysg fel athrawes yn y Dosbarth Derbyn.  Dw i’n byw nawr yn y Barri ac yn mwynhau fy swydd fel athrawes Blwyddyn 2 yn Ysgol Gwaun y Nant.

“Dw i’n briod ac mae gen i ddwy o ferched. Dw i’n berson sy’n famol iawn a dw i hapusa’ pan fydda i’n treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau.

“Dw i wrth fy modd gyda phlant bach ac yn cael llawer o bleser wrth feddwl am gynnwys fydd yn eu diddori. Mae fy mhrofiad dyddiol o fod gyda phlant wedi sbarduno sawl syniad - dw i’n teimlo’n gyffrous ac yn frwdfrydig ynglŷn â chael cyflwyno’r fideos yma ar gyfer cynulleidfa Clwb Cwtsh a Mudiad Meithrin.”