Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Clwb Cwtsh

Clwb Cwtsh

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin yn cydweithio i gyflwyno cyrsiau blasu Cymraeg newydd ar gyfer teuluoedd. Enw’r rhaglen o gyrsiau yw ‘Clwb Cwtsh’ a bydd yn cyflwyno teuluoedd i eirfa ac ymadroddion sy’n berthnasol i fagu plant ifanc. Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio’u Cymraeg gyda’u plant o’r cychwyn cyntaf. Mae disgwyl y bydd hyd at 600 o ddysgwyr yn dilyn 50 cwrs ‘Clwb Cwtsh’. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddilyn un o gyrsiau darparwyr y Ganolfan Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.