Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Coffi, clecs a cham ymlaen

Coffi, clecs a cham ymlaen

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn cynnal llawer o gyfleoedd i fwynhau ac ymarfer Cymraeg mewn ffyrdd hwyliog ac anffurfiol wrth ddod i adnabod y gymuned leol.

Un o’r Mentrau Iaith hyn yw Menter Bro Ogwr. Mae Menter Bro Ogwr yn gweithio gyda phobl o bob oed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr i gynnig cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol a dosbarthiadau Dysgu Cymraeg.  Bore Coffi, Clwb Clecs a theithiau cerdded Cam Ymlaen yw rhai o’r gweithgareddau mae’r Fenter yn eu cynnal i oedolion ymarfer siarad Cymraeg.  Dyma stori dwy sydd wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau yma:

Felicity

Dechreuodd Felicity ddysgu Cymraeg yn yr 1970au yn Walsall ond doedd dim llawer o gyfle i siarad Cymraeg, dim ond am un wythnos yn y flwyddyn yn ystod yr Eisteddfod wrth wersylla gyda’i ffrindiau. Fel arfer roedd hi’n deall mwy nag oedd hi’n gallu siarad.

Pan symudodd Felicity i fyw ym Mhen-y-bont yn 2018, roedd hi eisiau dechrau dysgu eto a chymryd pob cyfle i siarad yr iaith. Ar ôl dechrau cwrs gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg clywodd hi am Foreau Coffi Menter Bro Ogwr. Mae hi nawr yn mynd i bopeth mae’r Fenter yn trefnu. Mae’n aelod ffyddlon o’r grŵp cerdded Cam Ymlaen ac yn mynychu Clwb Clecs a Mwy pob mis ym Mhen-y-bont.

“Yn bendant mae’r gweithgareddau Menter Bro Ogwr wedi fy helpu i siarad yn fwy hyderus. Hefyd mae’r eirfa yn well achos dw i’n gallu siarad mewn sefyllfa wahanol a gyda phobl, sy’n brofiad gwahanol.”

Susan

Ar ôl ymddeol yn 2018 roedd gan Susan fwy o amser ac roedd hi'n awyddus i wneud mwy o ddefnydd o'i Chymraeg a gwirfoddoli. Ymunodd â'r grŵp Cam Ymlaen, oedd yn cwrdd ym Mharc Slip yn wythnosol i gerdded a siarad Cymraeg. Roedd hi wrth ei bodd yn cael ymarfer corff tra'n defnyddio ei Chymraeg.

Yn ystod y Cyfnod Clo, mae hi wedi cymryd mantais o weithgareddau digidol y Fenter a chymryd rhan yn eu grwpiau wythnosol a gweithdai ar Zoom. Mae hi'n mwynhau sgwrsio gyda'r dysgwyr a helpu nhw gyda geirfa newydd yn y gweithgareddau.

"Mae Menter Bro Ogwr wedi ehangu fy nghyfleoedd i siarad Cymraeg. Dw i'n mwynhau cwrdd â phobl newydd a helpu dysgwyr Cymraeg.  Dw i’n cael pleser o weld y criw sy'n dod i Cam Ymlaen yn cael mwy o hyder ac yn dod ymlaen a fy mod i wedi llwyddo helpu nhw."

Codi hyder ac agor drysau

Mae’r Fenter Iaith yn falch iawn o weld Felicity a Susan yn dod i’r gweithgareddau. Dyma beth mae Amanda Evans, Prif Swyddog y Fenter yn ei ddweud;

“Yn bendant, mae bod yn rhan o waith y Fenter wedi cynyddu defnydd Felicity a Susan o’r Gymraeg.

“Mae wedi codi hyder Felicity wrth siarad a rhoi cyfleoedd iddi ymarfer yr hyn mae’n ei ddysgu yn y dosbarth mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae ei hymwybyddiaeth a’i brwdfrydedd o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg wedi tyfu ac mae wrth ei bodd yn rhannu hyn gydag aelodau ei chapel a’i dosbarth Cymraeg.

“Mae gwirfoddoli gyda'r Fenter hefyd wedi agor drysau i Susan. Ar ôl cwrdd â chael sgwrs gyda rhywun yn y grŵp, ymunodd Susan â'r Sefydliad Cenedlaethol Gwylio'r Glannau a dechrau gwirfoddoli ym Mhorthcawl.

“Mae wedi bod yn bleser cael y ddwy yn rhan o brosiectau’r Fenter.”

Mwynhau’r Gymraeg

Chwilio am gyfleoedd i ymarfer dy Gymraeg? Chwilia am y bathodyn yma!

Dyma amserlen o rai o’r gweithgareddau sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd:

Mae mwy o wybodaeth ar www.mentrauiaith.cymru