Covid-19
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am y sector Dysgu Cymraeg i oedolion. Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag 11 darparwr cwrs lleol, sy’n cynnal dosbarthiadau ar ei rhan mewn cymunedau ledled Cymru.
Sut galla i ddal ati i ddysgu?
Bydd y darparwyr cwrs lleol yn cysylltu yn uniongyrchol gyda chi i gadarnhau'r dulliau o'ch cefnogi i ddysgu o bell/ar-lein. Mae manylion cyswllt y darparwyr cwrs lleol ar gael yma.
Sut galla i ymarfer adref?
Gallwch ddefnyddio dros 1,000 o adnoddau digidol rhad ac am ddim. Mae adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol lefelau dysgu. Mae mwy o wybodaeth yma am ffyrdd eraill o ymarfer eich Cymraeg.
Cynllun Siarad
Gofynnwn i’r parau Siarad beidio â chyfarfod wyneb yn wyneb. Gallwch gadw mewn cysylltiad gyda'ch gilydd dros y ffôn neu drwy Skype neu un o’r platfformau eraill.
Cyfathrebu
Dilynwch ffrwd Twitter y Ganolfan: @learncymraeg Mae manylion cyswllt y darparwyr cwrs lleol ar gael yma.