Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Coronafeirws - dosbarthiadau Dysgu Cymraeg

Coronafeirws - dosbarthiadau Dysgu Cymraeg

Covid-19

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am y sector Dysgu Cymraeg i oedolion.  Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag 11 darparwr cwrs lleol, sy’n cynnal dosbarthiadau ar ei rhan mewn cymunedau ledled Cymru.

Sut galla i ddal ati i ddysgu?

Bydd y darparwyr cwrs lleol yn cysylltu yn uniongyrchol gyda chi i gadarnhau'r dulliau o'ch cefnogi i ddysgu o bell/ar-lein. Mae manylion cyswllt y darparwyr cwrs lleol ar gael yma

Sut galla i ymarfer adref?

Gallwch ddefnyddio dros 1,000 o adnoddau digidol rhad ac am ddim.  Mae adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol lefelau dysgu. Mae mwy o wybodaeth yma am ffyrdd eraill o ymarfer eich Cymraeg.

Cynllun Siarad

Gofynnwn i’r parau Siarad beidio â chyfarfod wyneb yn wyneb. Gallwch gadw mewn cysylltiad gyda'ch gilydd dros y ffôn neu drwy Skype neu un o’r platfformau eraill. 

Cyfathrebu

Dilynwch ffrwd Twitter y Ganolfan: @learncymraeg  Mae manylion cyswllt y darparwyr cwrs lleol ar gael yma.