Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gwricwlwm cenedlaethol newydd ar gyfer rhaglen addysgu Cymraeg i Oedolion.
Dyma’r tro cyntaf i gwricwlwm llawn gael ei gynllunio ar gyfer Cymraeg i Oedolion, a bydd yn sail i’r holl gyrsiau newydd i’r dyfodol.
Mae’r cwricwlwm yn dilyn fframwaith dysgu ieithoedd Cyngor Ewrop. Mae’n nodi’r hyn y dylai’r dysgwyr allu ei gyflawni o fewn y pedair sgil iaith (siarad, ysgrifennu, gwrando a darllen) ac mae’n disgrifio patrymau iaith allweddol.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Am y tro cyntaf erioed bydd un cwricwlwm cenedlaethol yn sail ar gyfer holl weithgareddau’r maes. Bydd y cwricwlwm newydd yn arwain at lunio adnoddau newydd a chyffrous, gan gynnwys rhaglenni digidol rhyngweithiol. Rydym yn edrych ymlaen at drafod sut gall y cwricwlwm gyfrannu at ddatblygiad y continwwm ieithyddol yng Nghymru.”
Mae’r Ganolfan yn cydweithio’n agos gyda rhwydwaith o 11 o ddarparwyr i gynnal amrywiaeth o gyrsiau ar draws Cymru, gan gynnwys cyrsiau cyfunol – cyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a dysgu ar-lein – a chyrsiau dwys.
Diwedd
Am fwy o wybodaethau cysylltwch â Hannah Thomas, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu ar Hannah.thomas@dysgucymraeg.cymru
Nodiadau i’r golygydd:
- Ariennir y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru.
- Lefelau dysgu’r rhaglen addysgu Cymraeg i Oedolion:
Enwau’r lefelau | Enwau’r lefelau |
Hyfedredd/Proficiency | |
Uwch/Advanced | B2 |
Canolradd Intermediate | B1 |
Sylfaen/Foundation | A2 |
Mynediad/Entry | A1 |