Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cryfhau’r cysylltiad rhwng Cymru a Llydaw

Cryfhau’r cysylltiad rhwng Cymru a Llydaw

Fis Ebrill, bydd cynrychiolwyr o sefydliad Mervent, Llydaw yn ymweld â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae Mervent, wedi’i leoli yn Llydaw, Ffrainc ac yn gyfrifol am hyrwyddo dysgu Llydaweg i oedolion.

Bydd Cyfarwyddwr Mervent, Yannig Menguy a llond llaw o’i gydweithwyr yn mynychu dosbarthiadau Dysgu Cymraeg yn Y Barri, Pontypridd ac Aberystwyth ar 7, 8, 9 a 10 Ebrill.

Byddant hefyd yn cael blas ar waith y Ganolfan ar ffurf cyflwyniadau am ddatblygiadau’r cwricwlwm cenedlaethol, cynnwys y cyrsiau, adnoddau digidol arloesol a dulliau dysgu yn ogystal â chymwysterau sydd ar y gweill ar gyfer tiwtoriaid Dysgu Cymraeg.

Bydd ‘Cymraeg Gwaith’ sef cynllun poblogaidd y Ganolfan i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn cael sylw, a’r cynlluniau marchnata i hyrwyddo Dysgu Cymraeg ymhlith oedolion.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“’Dyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r criw i’n plith er mwyn rhannu profiadau ac arfer dda yn ogystal â manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am waith Mervent yn Llydaw.”

Ychwanegodd Yannig Menguy, Cyfarwyddwr Mervent:

“Mae gan Lydaw a Chymru berthynas glos diolch i’r memorandwm dealltwriaeth sy’n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Rhanbarthol Llydewig, sy’n gofalu am gydweithrediad economaidd, cyfnewid diwylliannol a chynllunio ieithyddol.  ’Dyn ni’n edrych ymlaen at yr ymweliad ac at gael dysgu mwy am ddatblygiadau diweddaraf y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.’’

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae Llydaweg yn iaith Geltaidd ac yn perthyn yn agos i Gernyweg a’r Gymraeg. Mae tua 200,000 o bobl yn siarad yr iaith.
  • Cafodd Mervent ei sefydlu yn 1994 ac mae’n gyfrifol am drefnu cyrsiau Llydaweg i oedolion, gan gynnwys cyrsiau dwys. Mae Mervent hefyd yn dysgu cyrsiau Llydaweg mewn ysgolion.