1. O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Ges i fy magu yn Llundain ac ro’n i’n byw yno tan i fi symud i Ogledd Cymru yn 2018.
2. Sut wnest ti ddechrau gweithio yn y maes Treftadaeth?
Yn y brifysgol, wnes i astudio hanes. Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn hanes amgueddfeydd a chasgliadau. Ar ôl i fi raddio, wnes i weithio fel rheolwr prosiect mewn prifysgol. Wedyn, efo fy mhrofiad rheoli prosiect a sgiliau ymchwil hanes, ges i swydd fel cysylltwr prosiect treftadaeth mewn canolfan cymunedol Asiaidd. Roedd y prosiect yn ymwneud â hanes pobl o’r is-gyfandir Indiaidd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
3. Beth yw’r peth gorau am dy waith?
Y cyfle i ddysgu llawer o bethau newydd drwy’r amser! Nid yn unig o lyfrau ac archifau, ond hefyd wrth bobl frwdfrydig a gwybodus.
4. Beth yw dy hoff safle (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a pham?
Cwestiwn amhosib! Un o safleoedd cyfareddol yr YG ydy Tŷ Mawr Wybrnant, lle gaeth Esgob William Morgan ei fagu yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Heddiw, mae’r lle yn teimlo’n unig, ond yn y cyfnod hwnnw, roedd o ar lwybr porthmon o lefydd gwahanol Gogledd Cymru. Buasai William Morgan wedi clywed llawer o dafodieithoedd Cymraeg. Dwi’n mwynhau dychmygu’r sŵn a’r stŵr a fyddai wedi dod o Dŷ Mawr yn y gorffennol.
5. Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Ro’n i’n teimlo fel ro’n i’n colli allan! Mae yna gymaint o ddiwylliant iaith Gymraeg ac ro’n i eisiau mynd ynghlwm â fo. E.e. cefais fy ngwahodd gan ffrind Cymraeg i Blygain – faswn i erioed wedi mynd taswn i ddim yn siarad dipyn bach o’r iaith. Roedd o’n gymaint o hwyl - y tro nesa mae ‘na Blygain, dwi eisiau canu yn siŵr o fy ynganiad!
6. Sut/ble wnest ti ddysgu?
Ro’n i’n lwcus i ddechrau dysgu yn Nant Gwrtheyrn efo cwrs dwys 0 – 60! Fe es i o fethu ynganu’r wyddor i wneud brawddegau syml yn y gorffennol mewn wythnos. Eleni, wnes i fwy o gyrsiau dwys ar-lein efo Prifysgol Caerdydd ac Abertawe a rŵan dwi’n mynd i ddosbarth wythnosol ym Mhrifysgol Bangor.
Pwysig hefyd oedd siarad efo fy nghydweithwyr a ffrindiau, sy’n gefnogol iawn. Dwi’n dysgu lot wrthyn nhw. Mae siarad Cymraeg yn y byd go-iawn yn fy ysgogi i gario ymlaen.
7. Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dwi’n ceisio defnyddio fy Nghymraeg efo pobl sy’n siarad Cymraeg fel mamiaith cymaint â phosib. Dwi newydd ddechrau trio siarad Cymraeg yn y gwaith hefyd – ond ar hyn y bryd, mae’n anodd siarad am bynciau cymhleth. Mae’n rhaid i fi ddal ati i ymarfer!
8. Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy nghas beth ydy eistedd ar fy nghyfrifiadur pan mae hi’n heulog tu allan! Fy hoff beth ydy mynd allan a bod ym myd natur.
9. Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Dwi’n licio cerdded, beicio, dringo yn y mynyddoedd a nofio yn llynnoedd Eryri. Dwi’n lwcus iawn fy mod yn byw yma.
10. Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg?
Wnes i fwynhau darllen y llyfr i ddysgwyr, Bywyd Blodwen Jones, am ferch o Fethesda sy’n dysgu Cymraeg ac sy’n ‘sgwennu dyddiadur doniol iawn.
11. Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Dwi’n caru dweud ‘ysbrydoledig’ – mae’n swnio’n lyfli.
12. Oes gyda ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Os yw hi’n bosib, gwnewch gwrs dwys i gychwyn. Bydd hyn yn rhoi’r sylfaen a’r hyder i chi ddysgu’n annibynnol.
13. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Llawn diddordeb!