![Cwrs Blasu'r Eisteddfod](/media/3097/shw-mae-caerdydd.jpg?crop=0,0.13333333333333336,0,0.35384615384615387&cropmode=percentage&width=780&height=400&rnd=132899279880000000)
Cyfle i ddysgu ychydig o Gymraeg i ddefnyddio yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae Cwrs Blasu newydd wedi’i lunio i ddysgu geiriau ac ymadroddion i ddysgwyr ddefnyddio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, sy’n ymweld â Bae Caerdydd eleni (3-11 Awst).
Mae’r cwrs chwech-awr o hyd, sydd ar gael mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a thu hwnt, yn dysgu geirfa berthnasol i’r Eisteddfod, megis ‘cystadlu’, ‘llwyfan’, ‘stondinau’ a ‘chorau’.
Bydd cyngor ar ynganu yn rhan o’r cwrs. Bydd ymadroddion syml, er enghraifft ‘Ga i baned o de’ a ‘Ble mae’r pafiliwn?’ hefyd yn cael eu dysgu.
Mae’r cwrs wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’i darparwr, Dysgu Cymraeg Caerdydd. Bydd gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg, yn ogystal â llu o weithgareddau ar gyfer dysgwyr, ar gael trwy gydol yr Eisteddfod, yng nghanolfan ‘Shw’mae Caerdydd’ yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd.
Cliciwch yma i ddod o hyd i gwrs blasu yng Nghaerdydd (a chliciwch ar y côd perthnasol). Defnyddiwch y chwiliwr i ddod o hyd i gyrsiau blasu eraill ledled Cymru.