Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cwrs Cymraeg newydd ar gyfer y diwydiant twristiaeth

Cwrs Cymraeg newydd ar gyfer y diwydiant twristiaeth
Gweithwyr Sain Ffagan sy'n dysgu Cymraeg

Bydd gweithwyr yn y diwydiant twristiaeth a hamdden yn gallu defnyddio mwy o Gymraeg wrth eu gwaith diolch i gwrs ar-lein newydd sbon sydd wedi cael ei ddatblygu fel rhan o gynllun ‘Cymraeg Gwaith’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r cwrs ‘Croeso: Sector Twristiaeth’ 10-awr o hyd yn agored i bawb, yn rhad ac am ddim, ac yn cyflwyno geirfa, cyfarchion ac ymadroddion pob dydd.

Bydd y Ganolfan yn cydweithio â Croeso Cymru a Swyddogion Busnes Y Gymraeg i dynnu sylw cwmnïau fel caffis, gwestai ac atyniadau twristiaeth at y cwrs.

Mae 10 uned yn rhan o’r cwrs a phob un yn cyflwyno elfennau gwahanol yn ogystal â chwis cyflym ar ddiwedd pob uned, sy’n adolygu’r hyn a ddysgwyd.  Rhoddir pwyslais ar ynganu ac mae ymarferion yn rhoi cyfle i’r dysgwr ymarfer ynganu enwau llefydd.

Mae’r cwrs hefyd yn cyflwyno geirfa am amrywiol fwydydd a diodydd.  Yn ychwanegol, mae un uned yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r ffôn a’r gallu i ateb galwadau a’u trosglwyddo yn Gymraeg.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd pob dysgwr yn derbyn tystysgrif a phecyn llongyfarch.  Byddant hefyd yn derbyn gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu’r Gymraeg ymhellach, boed hynny trwy gyrsiau ‘Cymraeg Gwaith’ neu gyrsiau cymunedol a gynigir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Stephanie Swift-Jones, rheolwr siop Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy’n dysgu Cymraeg, yn croesawu’r cwrs ar-lein newydd:

“Dw i ’di bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers bron i ddwy flynedd a dw i’n dysgu Cymraeg,” meddai.  “Bydd y cwrs yma yn ffordd wych o ddysgu geirfa fydd yn berthnasol i’r swydd wrth groesawu ymwelwyr i’r Amgueddfa.  Bydd yn gyfle, hefyd, i ymarfer ac i fagu hyder i ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda chwsmeriaid.”

Meddai Manon Humphreys, Cydlynydd y Gymraeg, Amgueddfa Cymru:

“Mae cwrs ar-lein newydd ‘Croeso: Twristiaeth’ yn ffordd gyfleus a hyblyg o ddysgu sut mae cyfarch a chroesawu ymwelwyr.  Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’r croeso unigryw y gallwn gynnig i dwristiaid yng Nghymru, ac yn sicr bydd y cwrs newydd yma’n adnodd gwerthfawr i’n dysgwyr yn amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“’Dyn ni’n falch o fedru cynnig yr opsiwn hyblyg yma fydd yn galluogi gweithwyr yn y sector Twristiaeth i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith bob dydd.  Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyrsiau ar-lein sydd wedi’u cyflwyno fel rhan o’r cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, er mwyn ateb y galw am ddarpariaeth Dysgu Cymraeg wedi’i theilwra ar gyfer gwahanol sectorau.”

Disgrifiad llun 

O’r chwith i’r dde, o flaen adeilad eiconig ‘Gwalia Stores’ yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, mae aelodau o staff yr amgueddfa, Lloyd Vaterlaws, Loveday Williams a Stephanie Swift-Jones.  Mae’r tri yn dysgu Cymraeg ac yn awyddus i roi tro ar y cwrs Dysgu Cymraeg ar-lein newydd rhad ac am ddim ar gyfer y sector twristiaeth.