Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cynllun cydweithio newydd gyda Duolingo

Cynllun cydweithio newydd gyda Duolingo
Disgrifiad llun: Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ac Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Yn y cefndir mae neges fideo gan Gina Gotthelf, Is-lywydd Twf Duolingo yn yr Unol Daleithiau.

 

Cynllun Cydweithio newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg a Duolingo

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y corff sy’n gyfrifol am y maes Cymraeg i Oedolion, a Duolingo, y platfform dysgu ieithoedd digidol, wedi cyhoeddi Cynllun Cydweithio newydd.

Fel rhan o’r Cynllun, bydd y Ganolfan yn caniatáu mynediad rhydd i’w hadnoddau addysgu, fel bod fersiwn Gymraeg ap rhad-ac-am-ddim Duolingo yn defnyddio’r un patrymau iaith a geirfa sy’n cael eu dysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion.

Mae modd dod o hyd i ap Duolingo yma.  Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i roi tro ar ap Duolingo, sy’n defnyddio profiadau tebyg i gemau cyfrifiadurol, fel ffordd atodol a chyfleus o ymarfer y Gymraeg.

Bydd Duolingo hefyd yn croes hyrwyddo cyrsiau Cymraeg i Oedolion, sydd ar gael ar bum lefel dysgu mewn cymunedau ledled Cymru.

Criw o wirfoddolwyr sy’n gyfrifol am greu a chynnal fersiwn Gymraeg Duolingo; mae pencadlys y cwmni yn yr Unol Daleithiau.

Meddai cyd-sylfaenydd Duolingo, yr Athro Luis von Ahn, Athro Cyswllt mewn Gwyddorau Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Carnegie Mellon, Pittsburgh:  

“Gall dysgu iaith newydd fod yn waith caled ond trwy symleiddio’r dysgu mae Duolingo yn ei wneud yn hwyl.  Mae’r dull hwn wedi dwyn ffrwyth ac erbyn hyn mae gennym 170 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd!

“’Dyn ni’n hapus iawn i fod yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.” 

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae Duolingo yn cynnig ffordd hwyliog o ymarfer y Gymraeg.  Trwy bartneru â’r platfform dysgu ieithoedd hwn, byddwn yn hwyluso cyfleoedd ychwanegol i gefnogi ein dysgwyr wrth iddynt ddysgu’r Gymraeg.”

Meddai Jason Aylett, un o ddefnyddwyr Duolingo sy’n byw yng Nghasnewydd, ond sy’n dod yn wreiddiol o’r Alban:

“Dw i’n briod â siaradwr Cymraeg ac mae’r plant yn dechrau dysgu yn yr ysgol.  Dechreuais i ddysgu Cymraeg bedair mlynedd yn ôl a dw i wedi cwblhau’r lefel Sylfaen.  Mae Duolingo wedi helpu trwy gynnig ffocws dyddiol a sesiynau ymarfer.  Mae fy mechgyn wedi dechrau defnyddio Duolingo hefyd ac maen nhw wrth eu bodd gyda’r ap.”

Diwedd

30.5.17

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â hannah.thomas@dysgucymraeg.cymru neu hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru