Mae dwy ffrind gafodd eu magu yn yr un dref yn Swydd Efrog, cyn dilyn llwybrau gwahanol, bellach yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i’r un sefydliad.
Cafodd Angharad Alter ac Elizabeth James, sy’n gweithio i Gymwysterau Cymru, eu magu yn Whitby ar arfordir gogledd Efrog, cyn i Angharad a’i theulu symud i Reading.
Daeth Angharad, sydd â mam-gu sy’n siarad Cymraeg, i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014, a chyfarfod ei gŵr, Dewi, sy’n siarad Cymraeg. Mi wnaeth Dewi ei hannog i ddysgu Cymraeg ac mae hi bellach yn dilyn cwrs lefel Gloywi gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn ôl Angharad: ‘‘Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl cyrraedd y brifysgol, ond fy ngŵr, Dewi, wnaeth fy annog i ddal ati. Mae’r Gymraeg yn rhan mor fawr o’i fywyd felly ro’n i eisiau bod yn rhan o hynny. Dw i nawr yn siarad Cymraeg gyda fy ngŵr a’i deulu, fy mam-gu a nifer o fy ffrindiau.’’
Penderfynodd Elizabeth James symud i Gymru er mwyn bod gyda’i gŵr, Owain. Mae Owain yn dod o Gaerdydd ond mi wnaeth y ddau gyfarfod yn Leeds, tra roedd Elizabeth yn dysgu hanes mewn ysgol uwchradd.
Meddai Elizabeth: ‘‘Mi wnes i symud i Gaerdydd ar ôl i fy ngŵr a minnau ddyweddïo achos roedd o eisiau dychwelyd i Gymru ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn astudio yn Lloegr. Yn ystod y cyfnod clo, ro’n i’n byw gyda theulu fy ngŵr, sy’n siarad Cymraeg, ac mi wnes i ddechrau dilyn gwersi byw ‘Deg am Dri’ ar Facebook gyda Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mi wnes i ddechrau ymarfer siarad Cymraeg o amgylch y bwrdd bwyd, a dyna oedd dechrau’r daith i ddysgu’r iaith!’’
Mi wnaeth Angharad ac Elizabeth gadw mewn cysylltiad yn ystod eu harddegau, ac roedd y ddwy yn mynd i wersyll Cristnogol yn y Bala. Yng Nghaerdydd, maen nhw’n mynd i Eglwys Gymraeg ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn wythnosol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Angharad ac Elizabeth hefyd yn defnyddio’r Gymraeg gyda chydweithwyr ac mewn cyfarfodydd yn y gwaith, fel yr eglura Elizabeth:
‘‘Mae gen i fwy o hyder nawr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, a dw i’n edrych ymlaen at weld hynny’n datblygu ymhellach. Mae fy nghyflogwyr wedi bod mor gefnogol ac fe dreuliais i wythnos yn dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn yn gynharach eleni. Mae dysgu Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a thu fas i’r gwaith wedi bod yn brofiad gwerth chweil hyd yma. Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod yn hoff o ddysgu ieithoedd ond mae fy mhrofiad wedi dangos bod pawb yn gallu dysgu iaith newydd.’’
Llun: Elizabeth (chwith) ac Angharad (dde).