Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyfle i fwynhau cyfweliad Cymraeg cyntaf Noel

Cyfle i fwynhau cyfweliad Cymraeg cyntaf Noel

Bydd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn cynnal ei gyfweliad cyntaf yn y Gymraeg yn ystod gŵyl Gymraeg Caerdydd, Tafwyl, sy’n cael ei chynnal ym Mharc Bute ar 15-16 Gorffennaf.

Mae Noel wedi bod yn mwynhau dysgu’r Gymraeg ers dechrau’r flwyddyn, diolch i bartneriaeth rhwng y Gymdeithas Bêl-droed a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Fel rhan o’r bartneriaeth, mae’r tiwtor, Aron Evans o Gaerdydd, wedi’i leoli gyda charfan a staff cefnogi’r Gymdeithas.  Mae Aron yn rhoi gwersi un-i-un i Noel, sy’n wreiddiol o Iwerddon ac sy’n Brif Weithredwr y Gymdeithas ers 2021.

Mae Aron hefyd yn cynnal gwersi gyda staff eraill, ac mae’r Gymdeithas yn hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg ymhlith cefnogwyr a staff ar lawr gwlad.

Am 3.15pm ar ddydd Sul, 16 Gorffennaf, yn y Babell ‘Llais’ yn Nhafwyl, bydd Noel yn cael ei holi yn Gymraeg gan ei diwtor, Aron Evans.

Bydd Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dona Lewis, hefyd yn siarad am y bartneriaeth gyda’r Gymdeithas Bêl-droed.

Meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Dw i’n edrych ymlaen at sgwrsio yn Gymraeg yn Nhafwyl.  Mae’r Gymraeg yn rhan fawr o’n byd pêl-droed, a dw i’n hapus iawn i ddechrau dysgu’r iaith.  Mae’r bartneriaeth gyda’r Ganolfan, a chefnogaeth Aron, yn helpu ni i ddefnyddio mwy o’r iaith a thynnu sylw at y cyfleoedd i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.''