Cyfweliad gyda’r actor a’r tiwtor, Rhys ap Trefor
Ar 3 Rhagfyr am 6yh, bydd Rhys ap Trefor yn pobi cacen sinsir Nadoligaidd yn ystod sesiwn goginio ar Zoom. Dyma gyfle i chi ddod i’w adnabod ychydig yn well.
Os dych chi eisiau ymuno yn y sesiwn, cofrestrwch yma.
O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n dod o Garndolbenmaen yn wreiddiol, pentre bach yng Ngwynedd. Dw i’n byw yng Nghaerdydd nawr gyda fy mhartner a fy mab.
Beth yw dy swydd o ddydd i ddydd?
Actor dw i. Dw i’n gweithio ar raglenni teledu, cynyrchiadau theatr, dramâu radio, lleisio cartwnau a gemau fideo. Pob math o bethau. Dw i hefyd yn cyfarwyddo ac yn ysgrifennu.
Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb mewn coginio?
Dw i’n hoffi gwneud cacennau ers o’n i’n blentyn.
Oes rhywun/rhywbeth yn dy ysbrydoli di i goginio?
Roedd rhaid i fy mhartner stopio bwyta glwten am resymau iechyd. Doedd dim llawer o ddewis o gacennau a bwydydd iddi hi fwyta. Felly, gwnes i ddechrau coginio gyda chynhwysion di-glwten.
Beth yw dy hoff gacen a pham?
Cwestiwn anodd! Cacen goffi a chnau Ffrengig (walnuts) dw i’n meddwl. Mae’n fy hatgoffa i o fy Nain (Mam-gu).
Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Dw i’n mwynhau seiclo o amgylch ardal Caerdydd. Dw i hefyd yn rhan o dîm Pétanque Cwins Caerdydd.
Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Ymarfer a pheidio bod ofn gwneud camgymeriadau. Dyw fy Nghymraeg i ddim yn berffaith (o bell ffordd) - ei defnyddio sy’n bwysig.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Lletwad (Ladle)
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Sensitif. Diog. Gwirion.
*Pétanque – gêm Ffrengig sy’n cael ei chwarae yn yr awyr agored yw Pétanque. Mae dau dîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd a bwriad y gêm yw ceisio taflu peli mor agos â phosib at y bêl darged.