Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyfweliad gyda’r actor a’r tiwtor, Rhys ap Trefor

Cyfweliad gyda’r actor a’r tiwtor, Rhys ap Trefor

Ar 3 Rhagfyr am 6yh, bydd Rhys ap Trefor yn pobi cacen sinsir Nadoligaidd yn ystod sesiwn goginio ar Zoom. Dyma gyfle i chi ddod i’w adnabod ychydig yn well.

Os dych chi eisiau ymuno yn y sesiwn, cofrestrwch yma.  

O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?

Dw i’n dod o Garndolbenmaen yn wreiddiol, pentre bach yng Ngwynedd.  Dw i’n byw yng Nghaerdydd nawr gyda fy mhartner a fy mab.

Beth yw dy swydd o ddydd i ddydd?

Actor dw i.  Dw i’n gweithio ar raglenni teledu, cynyrchiadau theatr, dramâu radio, lleisio cartwnau a gemau fideo.  Pob math o bethau.  Dw i hefyd yn cyfarwyddo ac yn ysgrifennu.

Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb mewn coginio?

Dw i’n hoffi gwneud cacennau ers o’n i’n blentyn.

Oes rhywun/rhywbeth yn dy ysbrydoli di i goginio?

Roedd rhaid i fy mhartner stopio bwyta glwten am resymau iechyd.  Doedd dim llawer o ddewis o gacennau a bwydydd iddi hi fwyta.  Felly, gwnes i ddechrau coginio gyda chynhwysion di-glwten.

Beth yw dy hoff gacen a pham?

Cwestiwn anodd!  Cacen goffi a chnau Ffrengig (walnuts) dw i’n meddwl.  Mae’n fy hatgoffa i o fy Nain (Mam-gu).

Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?

Dw i’n mwynhau seiclo o amgylch ardal Caerdydd.  Dw i hefyd yn rhan o dîm Pétanque Cwins Caerdydd.

Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Ymarfer a pheidio bod ofn gwneud camgymeriadau.  Dyw fy Nghymraeg i ddim yn berffaith (o bell ffordd) - ei defnyddio sy’n bwysig.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

Lletwad (Ladle)

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Sensitif.  Diog.  Gwirion.

 

*Pétanque – gêm Ffrengig sy’n cael ei chwarae yn yr awyr agored yw Pétanque. Mae dau dîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd a bwriad y gêm yw ceisio taflu peli mor agos â phosib at y bêl darged.