Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cymraeg Gwaith - Cwrs ar-lein

Cymraeg Gwaith - Cwrs ar-lein

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddilyn cwrs
dysgu Cymraeg ar-lein newydd sbon

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wedi cofrestru ar gyfer cwrs dysgu Cymraeg ar-lein newydd sbon, sy’n cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau, 10 Awst.

Mae’r cwrs 10-awr, rhad ac am ddim yn rhan o’r rhaglen addysgu ‘Cymraeg Gwaith’, menter newydd i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, wedi’i datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r cwrs, sy’n rhoi blas o’r iaith i ddechreuwyr, yn cyflwyno ymadroddion syml a geirfa sylfaenol.  Mae modd ei ddilyn ar ddyfeisiau electronig yn y gwaith neu adref ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwyr.

Mae cyrsiau dwys a phreswyl hefyd yn rhan o’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’, sydd wedi’i hariannu’n llwyr.  Mae cyrsiau ar gael i ddysgwyr ar wahanol lefelau, p’un ai’n ddechreuwyr neu’n siaradwyr profiadol.

Meddai Kirsty Williams:

“Mae’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ yn cynnig cyfleoedd cyffrous i weithwyr mewn gwahanol sectorau i ddysgu a gwella eu Cymraeg.  Dw i’n falch iawn i fod ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ddilyn y cwrs ar-lein newydd hwn.

“Dw i’n edrych ymlaen at roi fy sgiliau newydd ar waith, yn y gwaith ac adref.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae ‘Cymraeg Gwaith’ yn cynnig pecyn o gyrsiau Cymraeg hyblyg, wedi’u hariannu’n llwyr, y mae modd eu teilwra ar gyfer anghenion gwahanol sectorau a gweithleoedd unigol.

“Rydym yn hapus iawn bod Kirsty yn arwain trwy gofrestru ar y cwrs ar-lein hwn, sydd eisoes wedi ennyn diddordeb mewn gweithleoedd ledled Cymru.”

---------------

BT yw’r cwmni sector preifat cyntaf i gofrestru ar gyfer ‘Cymraeg Gwaith’

BT Cymru/Wales yw’r cwmni sector preifat cyntaf i gofrestru ar gyfer rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’.

Bydd pecyn o gyrsiau Cymraeg, wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer BT Cymru/Wales, ar gael i weithwyr y cwmni - oddeutu 4,000 o bobl.  Bydd y pecyn yn cynnwys cyrsiau dwys llawn a rhan amser, cyrsiau preswyl pum niwrnod o hyd a’r cwrs ar-lein 10-awr.

Meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru/Wales:

“Mae gan BT bresenoldeb sylweddol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn i fod y cyflogwr mawr cyntaf i weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar y rhaglen newydd yma, sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol ein gweithwyr ac sy’n cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gweithleoedd ledled y wlad.

“Fel sefydliad, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cynrychioli ein cwsmeriaid yng Nghymru ac mae’r gallu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn rhan naturiol o hynny.  Trwy roi’r cyfle i’n cydweithwyr ddysgu’r Gymraeg, ry’n ni’n eu galluogi i ddatblygu sgil gwerthfawr newydd ac yn cryfhau ymhellach ein gwasanaethau cwsmer.”

Diwedd

Nodiadau’r golygydd

  • Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn Hydref 2016 y byddai hyd at £3m yn cael ei gynnwys yng nghyllideb 2017-2018 ar gyfer datblygu cynlluniau i gefnogi dysgu Cymraeg yn y gweithle, fe gyflwynodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol raglen ‘Cymraeg Gwaith’.
  • Fel rhan o’r rhaglen, mae pwyslais hefyd ar gryfhau hyder pobl sydd eisoes yn siarad Cymraeg ond sy’n teimlo’n ansicr am ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun gwaith. Mae gwasanaeth gwybodaeth i gyflogwyr hefyd ar gael, gyda chyngor ar asesu sgiliau a chynllun ôl-ofal.
  • Mae 48 o gyflogwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer cwrs ar-lein ‘Cymraeg Gwaith’; disgwylir y bydd 1,000 o weithwyr yn cwblhau’r cwrs dros y misoedd nesaf.
  • Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen ar gael yma 

9.8.17