Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Datblygiadau diweddaraf

Datblygiadau diweddaraf

Cwrs hunan-astudio newydd Cymraeg Gwaith

Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Datblygu a Chynllunio’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n rhoi hanes Cymraeg Gwaith ar ei newydd wedd.

Cwrs hunan-astudio ar-lein estynedig – sy’n gyfwerth â 60 awr o wersi Dysgu Cymraeg yn y dosbarth – yw datblygiad diweddaraf Cymraeg Gwaith, y cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Dyma’r tro cyntaf i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gynnig cwrs hunan-astudio o’r math hwn, a daw’r datblygiad cyffrous yn sgil yr argyfwng iechyd cyhoeddus a’r galw cynyddol am ddulliau hyblyg o ddysgu.

Mae’r cwrs newydd, sy’n addas ar gyfer dechreuwyr, wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y gweithle.  Mae’n cyfuno adrannau darllen a deall a gwrando a deall gydag ymarferion a thasgau i’w gwneud a’u cofnodi.  Mae’n cynnwys geirfa ac ymadroddion perthnasol ac mae’r pwyslais ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle o’r cychwyn cyntaf un.

Er bod y cwrs yn un hunan-astudio, bydd tiwtor yn cefnogi, gan gadw golwg ar gynnydd y dysgwyr, a chynnig cyngor a chymorth.  Bydd sesiynau sgwrsio a holi ac ateb rhithiol hefyd yn cael eu cynnal gyda’r tiwtor.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd y dysgwr yn derbyn bathodyn cwblhau, ac mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno parhad hunan-astudio i’r cwrs.

Mae dros 250 o bobl, sy’n gweithio i saith o gyflogwyr, gan gynnwys byrddau iechyd a’r gwasanaethau brys, yn barod wedi cofrestru.  Mae’r ffaith ei bod yn bosib dilyn y cwrs ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr yn golygu bod y cwrs yn boblogaidd i bobl sy’n gweithio shifft – carfan anodd ei chyrraedd yn draddodiadol, o ran darparu cyrsiau.

Mae’r Ganolfan mewn trafodaethau i gynnal ymchwil ar y maes hunan-astudio er mwyn adnabod rhagoriaethau’r gwaith sy’n digwydd a chymharu gydag agweddau eraill ar ddysgu ar-lein.  Bydd holiadur i’r dysgwyr hefyd.

Unwaith bydd y cwrs wedi’i dreialu a’i fireinio, bydd yn bosib ei deilwra ar gyfer gwahanol sectorau a chyflogwyr, fel sy wedi digwydd gyda’n cyrsiau blasu 10-awr o hyd ar-lein, sy hefyd yn rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith.

Mae’r argyfwng iechyd cyhoeddus wedi dangos bod angen i ni fod yn hyblyg gyda’n darpariaeth er mwyn cynnig y dewis gorau i’n dysgwyr.  Gyda thoriadau i gyllideb Cymraeg Gwaith o ganlyniad i’r argyfwng, roedd angen i ni ymateb yn greadigol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gallu parhau i ddysgu yn eu gweithleoedd.

Mae’r cwrs newydd hwn yn braenaru’r tir ar gyfer cyflwyno cyrsiau tebyg ar lefelau dysgu eraill, sy’n galluogi’r Ganolfan i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. 

Diwedd