Cyllideb wedi’i sicrhau ar gyfer ail flwyddyn Cymraeg Gwaith
Mewn cynhadledd arbennig i nodi llwyddiannau blwyddyn gyntaf Cymraeg Gwaith, cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle, fe gyhoeddodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, bod cyllid ar gyfer y cynllun wedi’i sicrhau am ail flwyddyn.
Daeth cynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat – gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a BT Cymru – ynghyd i drafod y cynllun, sy’n cynnig hyfforddiant hyblyg ar gyfer dysgwyr ar wahanol lefelau.
Eisoes, mae dros 4,000 o weithwyr ledled Cymru wedi dilyn hyfforddiant trwy’r cynllun, sy’n cynnwys cyrsiau dysgu dwys, cyrsiau preswyl a chwrs arloesol ar-lein, 10-awr o hyd.