Mae cymryd rhan yng nghynhyrchiad dwyieithog Theatr Cymru, Romeo a Juliet, wedi ysbrydoli dau actor ifanc, Scott Gutteridge, a Gabin Kongolo, i ddysgu a datblygu eu Cymraeg.
Roedd y cynhyrchiad o stori gariad enwog Shakespeare yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio hunaniaeth Gymreig a chynnig persbectif newydd ar y sioe.
Penderfynodd Scott, o Lanelli, sydd wedi hyfforddi yn RADA ac oedd yn portreadu Tybalt, fynd ati o ddifri i ddysgu Cymraeg ar ôl dechrau ymarfer ar gyfer y sioe. Cafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg a mynychodd ysgolion cyfrwng Saesneg. Er bod ganddo rhywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg, roedd yn teimlo’n rhwystredig nad oedd yn gallu siarad yr iaith.
Dechreuodd Gabin, o Gaerdydd, oedd yn portreadu’r Tywysog, ddysgu Cymraeg yn 2021, pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan ddefnyddio apiau. Ar ôl graddio, symudodd i Lundain, ac roedd yn benderfynol o barhau i ddysgu’r iaith. Yn 2023, roedd yn aelod o’r cast yng nghyfres ddrama Bariau S4C, ac yn dysgu Cymraeg tra’i fod ar y set.
Roedd holl ymarferion Romeo a Juliet yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i’r actorion nad oedd yn siarad yr iaith. Roedd bod yng nghanol yr iaith, a’i chlywed yn cael ei siarad bob dydd wedi eu hysbrydoli.
Mae Scott a Gabin yn awyddus i barhau â’u siwrnai’n dysgu Cymraeg. Mae Scott newydd ddychwelyd o Nant Gwrtheyrn ar ôl treulio wythnos yn dysgu Cymraeg ar gwrs preswyl a ddarperir ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael am ddim i bobl sy'n gweithio yn sector y celfyddydau trwy bartneriaeth y Ganolfan â Chyngor Celfyddydau Cymru. Fel rhan o'r bartneriaeth, mae tiwtoriaid Dysgu Cymraeg yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu’r iaith, gyda chyrsiau a chefnogaeth ar bob lefel, o ddechreuwyr i siaradwyr di-hyder.
Mae’r Ganolfan hefyd yn falch o gefnogi a chydweithio â Theatr Cymru, trwy gynnal sgyrsiau rhithiol a wyneb yn wyneb ar gyfer dysgwyr yng nghwmni actorion neu gynhyrchwyr cyn neu ar ôl sioeau. Cyn i Romeo a Juliet fynd ar daith, cynhaliwyd sgwrs rithiol am y sioe gyda Isabella Colby Browne, oedd yn actio Juliet, ac sy wedi dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan, a Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a Chyd-Brif Weithredwr Theatr Cymru.
Meddai Scott, “Roedd clywed yr iaith yn cael ei siarad yn ystod Romeo a Juliet yn hyfryd. Dyma’r tro cyntaf i fi gymryd rhan mewn cynhyrchiad Cymraeg, ac roedd yn anhygoel.
“Roedd aelodau o’r cast yn fy helpu i ddysgu geiriau a chaneuon Cymraeg. Dw i’n trio dysgu bob dydd. Roedd clywed yr iaith yn cael ei siarad o fy nghwmpas wedi fy ysbrydoli.
“Dw i’n teimlo fy mod i wedi dechrau ar fy nhaith iaith go iawn. Do’n i erioed wedi meddwl y baswn i’n gallu siarad cymaint ag ydw i nawr – a dim ond y dechrau yw hyn.”
Meddai Gabin, “Roedd cael bod yn Bariau ar S4C yn teimlo fel yr her berffaith i ymarfer siarad Cymraeg. Mae’r profiad wir wedi fy helpu i gyda fy nhaith yn dysgu’r iaith, a gwneud i fi deimlo’n fwy hyderus yn ei siarad.
“Dw i’n dysgu ac yn amsugno cymaint mwy pan dw i yng nghanol yr iaith, ac mae bod mewn cynyrchiadau fel Romeo a Juliet a Bariau wedi fy nghaniatáu i i wneud hynny.
“Roedd Romeo a Juliet yn arbennig. Roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o’r cynhyrchiad. Roedd perfformio ar draws Cymru, a dod â’r sioe i’r Globe yn Llundain, a bod y person du cyntaf i berfformio’n Gymraeg ar lwyfan y Globe yn deimlad gwallgof ac arbennig.
“Roedd y gefnogaeth gawson ni gan y cast a’r criw yn arbennig, roedden nhw mor gefnogol i ni oedd yn dysgu Cymraeg, ac yn creu awyrgylch diogel ac adeiladol i ni wneud camgymeriadau, a dysgu. Roedd gweld datblygiad Scott gyda’r Gymraeg yn hynod ysbrydoledig. Ro’n ni’n cael sgyrsiau’n Gymraeg, ac roedd yn hyfryd dysgu gyda’n gilydd.”
Cydnabyddiaeth llun: Ffotograffiaeth gan Marc Brenner. Cynhyrchiad gan Theatr Cymru.
Disgrifiad llun: Gabin Kongolo (y llun cyntaf) a Scott Gutteridge (yr ail lun).