Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Busnesau bach sy’n “Hapus i Siarad” yn helpu dysgwyr Cymraeg i siarad yr iaith yn eu cymunedau

Busnesau bach sy’n “Hapus i Siarad” yn helpu dysgwyr Cymraeg i siarad yr iaith yn eu cymunedau

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith yn lansio cynllun newydd ar y cyd o’r enw “Hapus i Siarad” i helpu dysgwyr Cymraeg i ymarfer a defnyddio’r iaith yn eu cymunedau. Mae’r cynllun peilot yn dechrau yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Fflint a Wrecsam.

O’r 15fed o Ionawr ymlaen tan y 30ain o Fehefin mae dysgwyr Cymraeg y 3 ardal yn gallu ymweld â busnesau sy’n rhan o’r cynllun i gael sgwrs Gymraeg yno. Byddan nhw’n casglu 3 stamp neu lofnod ar gerdyn arbennig fydd wedyn yn gyfle iddynt ennill taleb ar gyfer y busnesau yn eu hardaloedd sy’n rhan o’r cynllun ac yn “hapus i siarad”.

Medd Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau Mentrau Iaith Cymru:

“Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg. Yn ein cymunedau ni mae busnesau bach lleol yn fwy na llefydd i brynu pethau. Maen nhw’n llefydd i bobl gyfarfod ei gilydd, cael sgwrs a bod yn rhan o’r gymuned. Mae gwybod lle mae dysgwyr a siaradwyr profiadol yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn allweddol i’r iaith ffynnu ym mhob rhan o Gymru.”

Cafodd y cynllun ei ysbrydoli gan daith i Gatalwnia y gwanwyn diwethaf. ‘Voluntariat per la Llengua’, cynllun llwyddiannus iawn yng Nghatalwnia.

“Aethom ar daith i Gatalwnia i ddysgu am gynlluniau i gefnogi dysgwyr Catalaneg,” eglura Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Braint oedd gweld sut mae Voluntariat per la Llengua yn siopau lleol yn cael eu defnyddio i helpu’r dysgwyr yno. Cawsom ein hysbrydoli felly i ddechrau cynllun tebyg yma yng Nghymru. Ac rydym yn falch o ddweud bod 2 ardal yn rhan o’r cynllun fydd yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y 2 flynedd nesaf.”

Mae dathliadau i lansio’r cynllun mewn sesiynau arbennig yn y 3 ardal.

  • 13 Ionawr, 10:30yb – Clwb Bowlio Llambed, Llanbedr Pont Steffan
  • 17 Ionawr, 6:30yh – Tafarndy yr Wyddgrug (bydd sesiwn ymarfer côr wedyn am 7:30yh)
  • 20 Ionawr, 10:30yb – bore coffi yn y Lion Treorci
  • 20 Ionawr, 11:00yb - bore coffi yng Ngorffwysfa'r Pysgotwr, Aberteifi

Mae’r dysgwyr wedi cael gwybod am y cynllun trwy eu tiwtoriaid yn y dosbarthiadau Dysgu Cymraeg yn ogystal â’u Mentrau Iaith lleol. Bydd y busnesau sy’n rhan o’r cynllun yn arddangos poster “Hapus i Siarad” i’r dysgwyr allu eu hadnabod yn hawdd. Mae rhestrau’r busnesau ar gael trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (www.dysgucymraeg.cymru) a thrwy’r Mentrau Iaith (www.mentrauiaith.cymru). Mae modd i fusnesau eraill yn y 3 ardal gymryd rhan hefyd trwy gysylltu â’u Menter Iaith leol.

Llun: Lansiad yn Llanbedr Pont Steffan: aelodau Is-Bwyllgor y Gymraeg Cyngor Tref Llambed a staff Cered (Menter Iaith Ceredigion) gyda'r poster.