Llongyfarchiadau mawr i Joe Healy, enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Ceredigion 2022.
Daw Joe o Wimbledon, Llundain, ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers 10 mlynedd. Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018.
Llongyfarchiadau, hefyd, i’r tri arall gyrhaeddodd y rownd derfynol, sef Stephen Bale, Ben Ó Ceallaigh, a Sophie Tuckwood.
Gallwch ddarllen am Joe yma – a byddwn yn clywed mwy gan y pedwar yn ystod y misoedd nesaf!