Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Da iawn Joe!

Da iawn Joe!

Llongyfarchiadau mawr i Joe Healy, enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Ceredigion 2022.

Daw Joe o Wimbledon, Llundain, ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers 10 mlynedd.  Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018.

Llongyfarchiadau, hefyd, i’r tri arall gyrhaeddodd y rownd derfynol, sef Stephen Bale, Ben Ó Ceallaigh, a Sophie Tuckwood.

Gallwch ddarllen am Joe yma – a byddwn yn clywed mwy gan y pedwar yn ystod y misoedd nesaf!