Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Darlithydd o Wlad Groeg yn ennill gwobr am ddysgu Cymraeg

 Darlithydd o Wlad Groeg yn ennill gwobr am ddysgu Cymraeg

Mae Eirini Sanoudaki, sy'n wreiddiol o Creta, Gwlad Groeg, wedi ennill gwobr genedlaethol am ei defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

Yn uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, enillodd Eirini y wobr yng ngwobrau blynyddol Cymraeg Gwaith, a gynhelir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn ei gwaith, mae Eirini yn edrych ar ddatblygiad iaith siaradwyr unieithog a dwyieithog, gan ganolbwyntio ar blant ag anhwylderau datblygiadol fel syndrom Down ac awtistiaeth. Daeth i weithio ym Mhrifysgol Bangor gan ei bod yn teimlo mai dyma un o'r lleoedd gorau yn Ewrop i astudio datblygiad plant dwyieithog.

Dechreuodd Eirini ddysgu Cymraeg gyntaf yn ystod ei hawr ginio, 10 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Eirini, “Pan symudais i Loegr, dysgais Saesneg ac roedd yn naturiol felly i mi ddysgu Cymraeg pan symudais i Gymru. Dw i’n cofio cyrraedd gogledd Cymru am y tro cyntaf, gweld y môr i un cyfeiriad, a’r mynyddoedd i’r cyfeiriad arall a meddwl - gallwn setlo yma. Roedd yn fy atgoffa o adref.

“Mae Dysgu Cymraeg wedi bod yn daith hir, a phan ddechreuais 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i ond yn astudio am awr yn ystod fy amser cinio. Ond, heddiw, dw i'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn caru'r iaith.

“Pan dych chi’n dechrau dysgu, rhaid i chi fanteisio ar bob cyfle i ymarfer eich Cymraeg - efallai ychydig eiriau neu frawddegau byr i ddechrau, ond mae'n bwysig rhoi cynnig arni a pheidio â bod ofn gwneud camgymeriad.

“I mi, gan fy mod yn hoff iawn o gerddoriaeth, gwnaeth ymuno â chôr lleol ar gyfer dysgwyr Cymraeg a siaradwyr brodorol wahaniaeth enfawr. Yno, gallwn ddefnyddio'r iaith wrth wneud rhywbeth roeddwn i'n ei fwynhau. ”

Mae gan Eirini fab 11 oed, sy'n siarad Groeg, Lombard, Cymraeg a Saesneg. Mae hi'n teimlo'n gryf y dylai rhieni drosglwyddo’r rhodd o ail neu drydedd iaith i'w plant.

“Rwyf wedi astudio plant dwyieithog ers blynyddoedd ac yn gwybod mai un o’r anrhegion gorau y gallwch roi i’ch plentyn yw ail iaith. Alla i ddim deall pam na fyddech yn gwneud hynny. Mae astudiaethau niferus wedi dangos y gall plant ymdopi â dysgu dwy, tair neu fwy o ieithoedd.”