Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Darllen yn tanio diddordeb dysgwyr yn y Gymraeg

Darllen yn tanio diddordeb dysgwyr yn y Gymraeg

Mae darllen nofelau Saesneg gyda chysylltiadau Cymreig yn gallu sbarduno pobl i ddysgu Cymraeg, a dyna fu hanes Jen Bailey sy’n byw yn yr Iseldiroedd ond sy’n dod yn wreiddiol o Awstralia.

Darllenodd Jen The Grey King gan Susan Cooper, nofel ffantasi i blant sydd wedi’i lleoli yng Nghymru, pan yn blentyn, ac mi wnaeth hynny danio ei diddordeb yn y Gymraeg.  Treuliodd Jen wythnos yn ysbyty plant Perth, oedd ddau gan milltir o’i chartref, pan yn 10 oed, ac mi ddarllenodd mam Jen y nofel iddi, yn ogystal â holl lyfrau eraill y gyfres - yn ystod y cyfnod yma.

Mi wnaeth Jen fwynhau The Dark is Rising, sef teitl y gyfres sy’n cynnwys pum llyfr, ond cafodd ei swyno gan The Grey King, y pedwerydd llyfr yn y gyfres, oherwydd y cysylltiadau Cymreig, fel yr eglura;

‘‘Ces i fy magu ar fferm yn Wheatbelt, Gorllewin Awstralia, felly ro’n i’n gallu uniaethu â bywyd cefn gwlad y nofel.  Cefais fodd i fyw wrth ddarllen am rai o’r lleoliadau fel Cader Idris a Chraig yr Aderyn yng Ngwynedd.  Dw i’n bwriadu dod i Gymru fis Mehefin er mwyn ymweld â’r llefydd hyn a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.’’

Bwriad Jen yw ymweld â’r lleoliadau wnaeth cymaint o argraff arni yn y llyfr, yn ogystal â sefyll arholiad Dysgu Cymraeg lefel Canolradd.  Mi wnaeth gwaith Jen fel arweinydd cerddorfa ddistewi fymryn yn ystod y pandemig, felly aeth ati i ddysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei gynnal gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn The Grey King, mae’r prif gymeriad, Wil yn rhoi cynnig ar ynganu rhai geiriau Cymraeg, a phenderfynodd Jen yn y fan a’r lle ei bod am roi cynnig ar ddysgu’r Gymraeg rhyw ddydd. 

Yn ôl Jen, mae eraill wedi dilyn yr un trywydd â hi;

‘‘Dw i’n gwybod am eraill sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl darllen The Grey King.  Mi wnes i rannu holiadur ar Facebook, ac mi ymatebodd unigolion o America, Sweden, Awstralia a'r Almaen gan ddweud eu bod wedi cael blas ar ddysgu’r iaith diolch i’r nofel.  Mae gen i hefyd gyfeillion sydd wedi eu hysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl darllen llyfrau megis The Chronicles of Prydain gan Lloyd Alexander, The Snow Spider gan Jenny Nimmo, Brother Cadfael gan Ellis Peters, Constable Evans gan Rhys Bowen yn ogystal â llyfrau J. R. R. Tolkien.”

Mae Jen mor falch ei bod yn dysgu Cymraeg, a hynny flynyddoedd ar ôl iddi ddod ar draws y Gymraeg a Chymru am y tro cyntaf yn The Grey King;

‘‘Dw i’n siarad wyth iaith ond dw i wedi syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg.  Dw i wrth fy modd gyda’r iaith a’i hanes ac mae’n amlwg bod eraill o’r un farn â fi.  Mae wedi bod yn braf sgwrsio gyda dysgwyr o bedwar ban byd sy wedi’u hysbrydoli i ddysgu Cymraeg, ar ôl darllen nofelau gyda chysylltiadau Cymreig.’’