Ac yntau yn wreiddiol o Gasllwchwr ger Abertawe, ond bellach yn byw yn Llundain, mae Jonathan Davies wedi’i synnu gyda faint o Gymraeg mae’n ei gofio o’i ddyddiau ysgol, ers iddo ail-afael yn yr iaith fel oedolyn.
Ail-gydiodd Jonathan yn ei Gymraeg yn 2020, gan ddechrau gydag ap Duolingo, cyn symud ymlaen i gael gwersi mewn dosbarth rhithiol gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Meddai Jonathan, “Mae’n rhyfedd – hyd yma, dw i ddim yn teimlo mod i’n dysgu ond yn hytrach dw i’n llwyddo gwneud cysylltiad rhwng geiriau dw i’n eu gwybod yn barod. Roedd y geiriau i gyd yna o’r ysgol, ond nawr dw i’n gallu eu cysylltu er mwyn creu brawddegau a siarad. Mae llawer ohono yn gyfarwydd i mi ac mae’r darnau’r jig-so yn disgyn i’w lle.”
Mae Jonathan bellach yn dysgu ar lefel Uwch, ar gyfer dysgwyr profiadol, ar ôl dechrau gyda chwrs Mynediad dwys ar gyfer dechreuwyr yn Ionawr 2021.
Ychwanegodd, “Dw i nawr wedi cyrraedd lefel ble dw i’n dysgu pethau newydd, na wnaethom ni yn yr ysgol. Dw i’n mwynhau lot a dyw e ddim yn teimlo fel gwaith caled.
“Dw i’n manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg ac mae digon o gyfleoedd i ni. Gwnes i fynd i amryw o foreau coffi ar-lein ar ddechrau’r cyfnod clo, a dw i’n rhan o’r cynllun ‘Siarad’ a’r cynllun ‘Cyfeillio’ sy’n rhoi cyfle i mi ymarfer siarad rhwng gwersi.
“Dw i’n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg o ogledd Cymru ar y cynllun ‘Siarad’, sy’n paru dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ar gyfer sgwrsio anffurfiol. Ac yna yn y cynllun ‘Cyfeillio’, dw i’n sgwrsio gyda dysgwraig o Glydach sydd newydd ddechrau dysgu Cymraeg, ac mae’n gyfle i ni helpu ein gilydd i weithio pethau allan gyda’r iaith.”
Mae cariad Jonathan ac un o’i ffrindiau gorau yn gallu siarad Cymraeg, a dyna un o’r rhesymau pam yr aeth ati i ddysgu’r iaith. Meddai, “Ro’n i eisiau dysgu iaith newydd ac ro’n i wedi rhoi cynnig ar ddysgu Almaeneg sawl gwaith ond yn cael dim hwyl arni.
“Yna, ro’n i’n eistedd yn y dafarn un noson gyda’m ffrind gorau a’m cariad, oedd yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd. Ac ro’n i eisiau gallu ymuno yn y sgwrs a deall beth roedden nhw yn ei ddweud.
“Felly, gwnes i adduned blwyddyn newydd i ddysgu Cymraeg a dw i heb edrych yn ôl ers hynny.”
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Jonathan yn gallu cynnal sgwrs yn ddi-drafferth yn Gymraeg ac mae’n annog pobl ifanc eraill sy awydd dysgu’r iaith i fynd amdani.
Ychwanegodd, “Mae gallu siarad Cymraeg yn cŵl iawn. Dw i’n teimlo nawr fod gen i fwy o gyswllt gyda’r gymdeithas a’r diwylliant Cymraeg. Dw i hefyd yn gwybod lot mwy am fy niwylliant na beth wnes i erioed o’r blaen!
“Dw i’n edrych ymlaen yn ofnadwy at dreulio wythnos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron a chael mwynhau siarad Cymraeg am wythnos gyfan.”