Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg
Bydd lleisiau dysgwyr i’w clywed ar draws BBC Radio Cymru rhwng 10-18 Hydref fel rhan o’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.
Bydd rhaglen ddogfen newydd am ddysgwyr Cymraeg ledled y byd a digon o eitemau amrywiol gan, ac ar gyfer, dysgwyr.
I gyd-fynd â’r wythnos bydd ymgyrch i ddarganfod hoff ganeuon dysgwyr Cymraeg.
Dyma'r amserlen - mwynhewch!
DYDD SADWRN, 10 HYDREF
8.30am ‘Ar y Marc’ Rhaglen i drafod pêl-droed.
5.30am ‘Marc Griffiths’ – Rhaglen geisiadau.
Tecstiwch Marc i ofyn iddo ddarllen eich cyfarchion a chwarae cân yn arbennig i chi.
DYDD Sul, 11 HYDREF
Dyddiadur Dysgwyr yn y Byd
Bydd Beca Brown yn cyflwyno ac yn siarad â dysgwyr gwahanol.
DYDD LLUN, 12 HYDREF
7.00am ‘Post Cyntaf’ – Rhaglen newyddion
Adroddiad - Cyfweliad gydag Efa Gruffudd, Prif Weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
8.30am ‘Aled Hughes’ – Rhaglen gylchgrawn
Sgwrs gyda Kai Saracceno.
11.30am ‘Bore Cothi’ – Rhaglen gylchgrawn
Bydd Shân Cothi yn siarad gydag un dysgwr o wahanol ardal bob dydd, gan ddechrau gyda Stephen Bale o Went.
2.00pm ‘Ifan Evans’ – Rhaglen gerddoriaeth – Hoff ganeuon y Dysgwyr o 5 i 1 rhwng 4.30pm a 5.00pm
Bydd dysgwyr ‘Criw Cymraeg Mewn Blwyddyn Dysgu Cymraeg Caerdydd’ yn cipio’r awenau i gyflwyno hanner awr o raglen am 3.00pm.
7.00pm ‘Rhys Mwyn’ – Rhaglen gerddoriaeth
I gyd-fynd â’r Siart Amgen eleni, bydd dysgwyr yn dewis eu hoff draciau “amgen” Cymraeg ar y rhaglen.
8.00pm ‘Bwletin Newyddion’
Y penawdau newyddion wedi’u cyflwyno yn arbennig ar gyfer dysgwyr.
10.00pm ‘Geraint Lloyd’ – Rhaglen gylchgrawn
Geraint sy’n rhoi sylw i diwtoriaid ar ‘y shifft hwyr’. Nia Llywelyn yw’r tiwtor heno.
DYDD MAWRTH, 13 HYDREF
7.00am ‘Post Cyntaf’ – Rhaglen newyddion
Y newyddion diweddaraf o Gymru a thu hwnt. Pecyn gan Liam Evans ynglŷn â chyrsiau rhithiol Nant Gwrtheyrn.
8.30am – 'Aled Hughes' – Kai Saracceno yn cyflwyno eitem “Sgwrsio – sut mae sgwrsio efo dysgwyr?”
Shaun Mc Govern o’r Unol Daleithiau yn wreiddiol sy’n rhannu ei phrofiadau o gyfarfod siaradwyr iaith gyntaf am y tro cyntaf.
11.00am ‘Bore Cothi’ – Rhaglen gylchgrawn
Janet Tabor o Fro Morgannwg sy’n cael sgwrs gyda Shân heddiw.
2.00pm ‘Ifan Evans’ – Rhaglen gerddoriaeth
Bydd dysgwyr ‘Criw Cymraeg Mewn Blwyddyn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant” yn cipio’r awenau i gyflwyno hanner awr o raglen am 3pm.
7.00pm ‘Hwyrnos Georgia Ruth’ – Rhaglen gerddoriaeth
Cerddoriaeth o bob math ac o bob cwr o’r byd sy’n rhan o restr chwarae Georgia. Yr Americanes Geordan Burress a’r cerddor ac athro ioga Rajesh David sy'n dewis traciau Tiwno Mas ar y rhaglen.
8.00pm ‘Bwletin Newyddion’
Y penawdau newyddion wedi’u cyflwyno yn arbennig ar gyfer dysgwyr.
10.00pm ‘Geraint Lloyd’ – Rhaglen gylchgrawn
Geraint sy’n rhoi sylw i diwtoriaid ar ‘y shifft hwyr’. Eilir Jones yw’r tiwtor heno.
DYDD MERCHER, 14 HYDREF
7.00am 'Post Cyntaf' - Rhaglen Newyddion
Golygydd Gwadd: Sam Coates
Sioe Frecwast Radio Cymru 2 – Bore Mercher 14 Hydref - Francesca Elena Sciarrillo, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019, yn dewis traciau ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl.
8.30am ‘Aled Hughes’ – Rhaglen gylchgrawn
Kai Saracceno yn cyflwyno pecyn “Y Gymuned Gymraeg – (Fyddai’n styc yn y gymuned o ddysgwyr am byth?)”
11.00am ‘Bore Cothi’ – Rhaglen gylchgrawn
Ross Macfarlane sy’n cael ei holi heddiw.
Bardd y Mis – Geraint Lovgreen yn cyfansoddi cerdd ar gyfer yr wythnos.
1.00pm 'Dros Ginio' – Rhaglen Newyddion/nodwedd
Vaughan Roderick sy'n sgwrsio gyda Jochen Eisentraut a Stel Farrar, sy#' trafod sut mae’r Gymraeg wedi newid eu bywydau.
2.00pm ‘Ifan Evans’ – Rhaglen gerddoriaeth -
Bydd dysgwyr o ‘SaySomethingInWelsh” yn cipio’r awenau i gyflwyno hanner awr o raglen am 3pm.
8.00pm ‘Bwletin Newyddion’
Y penawdau newyddion wedi’u cyflwyno yn arbennig ar gyfer dysgwyr.
10.00pm ‘Geraint Lloyd’ – Rhaglen gylchgrawn
Geraint sy’n rhoi sylw i diwtoriaid ar ‘y shifft hwyr’. Sandra De Pol yw’r tiwtor heno.
DYDD IAU, 15 HYDREF
7.00am 'Post Cyntaf' – Rhaglen Newyddion
Ail lansio cynllun Siarad – eitem gan Elin Angharad sy’n galw am siaradwyr Cymraeg i baru gyda dysgwyr ar gyfer sgwrsio anffurfiol.
8.30am 'Aled Hughes' – Rhaglen Gylchgrawn
Kai Saracceno sy'n cyflwyno eitem “Perthyn - ‘ffitio i mewn fel siaradwr ail iaith’ pan nad wyt ti’n edrych yn ‘Gymraeg’” gydag Isata Kanneh, sy’n byw ym Machynlleth.
11.00am ‘Bore Cothi’ – Rhaglen gylchgrawn
Elaine Griffiths sy’n cael ei holi.
2.00pm ‘Ifan Evans’ – Rhaglen gerddoriaeth
Bydd dysgwyr “Criw Dosbarth Uwch Pwllheli” yn cipio’r awenau i gyflwyno hanner awr o raglen am 3pm.
7.00pm 'Byd Huw Stephens' - Rhaglen Gerddoriaeth
Pixy Jones o’r band El Goodo yn rhoi ei ddewisiadau cerddorol yn y mics gwaith cartref.
Mae Pixy wedi bod yn dysgu Cymraeg ers cwpwl o flynyddoedd, ac mae’r gân gyntaf iddo ei chyfansoddi yn y Gymraeg sef ‘Fi’n Flin’ wedi ei rhyddhau’n ddiweddar gan El Goodo.
8.00pm ‘Bwletin Newyddion’
Y penawdau newyddion wedi’u cyflwyno yn arbennig ar gyfer dysgwyr.
10.00pm ‘Geraint Lloyd’ – Rhaglen gylchgrawn
Geraint sy’n rhoi sylw i diwtoriaid ar ‘y shifft hwyr’. Tomos Hopkins yw’r tiwtor heno.
DYDD GWENER, 16 HYDREF
11.00am ‘Bore Cothi’ – Rhaglen gylchgrawn
Bore Cothi - siarad gydag un dysgwr o wahanol ardal bob dydd; David Thomas sy heddiw.
8.00pm ‘Bwletin Newyddion’
Y penawdau newyddion wedi’u cyflwyno yn arbennig ar gyfer dysgwyr.
10.00pm ‘Geraint Lloyd’ – Rhaglen gylchgrawn
Geraint sy’n rhoi sylw i diwtoriaid ar ‘y shifft hwyr’; Jonathan Perry yw’r tiwtor heno.
DYDD SADWRN, 17 HYDREF
8.30am 'Ar Y Marc'
Cefnogwr pêl-droed o Dusseldorf, Klaus Neuhaus, yn cyfrannu.
DYDD SUL, 18 HYDREF
1.00pm 'Beti A’i Phobol'
Sgwrsio gyda Aran Jones o SaySomethingInWelsh.
3.00pm – Hywel Gwynfryn – Rhaglen Gyfarchion