Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dawnsiwr rhyngwladol yn mwynhau dysgu Cymraeg yn y Cyfnod Clo

Dawnsiwr rhyngwladol yn mwynhau dysgu Cymraeg yn y Cyfnod Clo

Roedd dawnsiwr rhyngwladol sy’n arbenigo mewn tap, bale a dawnsio Gwyddeleg yn falch o alw ei hun yn siaradwr Cymraeg yn y cyfrifiad diweddar, flwyddyn ar ôl penderfynu dysgu Cymraeg fel oedolyn.

Mi wnaeth Peter Harding, sy’n dod o Gaerdydd, ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol yn y 1980au, ond gadawodd y brifddinas yn 17 oed er mwyn ymuno â Riverdance gyda’i bartner dawnsio Gwyddeleg, Suzanne Cleary.  Cafodd y ddau gryn lwyddiant fel ‘Up & Over It!’ a pherfformio mewn gwyliau dawns a theatrau o amgylch y byd am flynyddoedd lawer cyn Covid-19.

Ar ddechrau Covid-19, roedd Peter yn gweithio yn Las Vegas, ond fesul un, mi gaeodd pob theatr ei drysau.  Daeth Peter adref ac roedd o’n benderfynol o wneud y defnydd gorau o’i amser yn ystod y cyfnod clo.  Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg gyda SaySomethingInWelsh, mae bellach yn mynychu cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Peter, fel yr eglura;

‘‘Yn ystod y cyfnod clo, dw i wedi mwynhau cyfarfod dysgwyr eraill ar-lein.  Dw i wedi treulio cymaint o flynyddoedd yn byw oddi cartref, mae dysgu Cymraeg wedi fy ngalluogi i ddysgu mwy am y Gymru sy’n bodoli tu hwnt i Gaerdydd, heb orfod symud oddi ar fy soffa!’’

Mae cerddoriaeth wedi chwarae rhan fawr ym mhenderfyniad Peter i ddysgu Cymraeg.  Mae Peter yn gwirioni ar gerddoriaeth Gymreig ac mae’n casglu recordiau finyl.  Mae’n aml yn gwrando ar gerddoriaeth gan Gwenno Saunders a Meic Stevens a dros y blynyddoedd, mae casglu a gwrando ar gerddoriaeth Gymreig tra’n byw dramor wedi galluogi Peter i deimlo’n agosach at adref.

Mae Peter bellach yn galw’i hun yn siaradwr Cymraeg, a hoffai annog eraill i ddysgu’r iaith;

‘‘Ro’n i wrth fy modd o fedru galw fy hun yn siaradwr Cymraeg yn y cyfrifiad diweddar.  Dw i’n teimlo fel siaradwr Cymraeg go iawn a dw i’n hapus iawn am hynny.  Mi faswn i’n annog unrhyw un i roi cynnig ar ddysgu Cymraeg.  Cofiwch ddal ati a byddwch yn amyneddgar!  Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau, achos mae’n dangos eich bod yn awyddus i roi cynnig arni, a dyna’r peth pwysicaf.’’

Yn ôl tiwtor Peter, Catherine Davies-Woodrow;

‘‘Mae Peter yn frwdfrydig ac mor awyddus i ddysgu, mae’n bleser ei gael yn y dosbarth.  Dw i’n falch ei fod wedi gwneud defnydd gwerthfawr o’i amser yn ystod y cyfnod clo, gan ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i artistiaid ers i theatrau gau eu drysau.  Mae sgiliau Cymraeg newydd Peter yn rhoi pleser iddo, a dw i’n edrych ymlaen at weld y sgiliau hynny yn datblygu dros y misoedd sydd i ddod.’’

Llun: Peter Harding gyda’i bartner dawnsio Gwyddeleg, Suzanne Cleary.