Dewch i ddysgu mwy am Suzanne Packer
Actores yw Suzanne Packer. Mae hi’n enwog am chwarae rhan Tess Bateman yn Casualty rhwng 2003 a 2015. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn dysgu Cymraeg ers 2003. Dewch i ni ddod i wybod mwy amdani hi.
O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n dod o Gaerdydd. Mae fy rhieni yn dod o Jamaica ac mi wnaethon nhw symud i Gaerdydd yn 1959.
Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Dw i eisiau gweithio yn Gymraeg. Roedd fy mab mewn ysgol Gymraeg am sbel felly dw i eisiau cefnogi ac ymarfer gyda fe.
Sut/ble wnest ti ddysgu?
Ar hyn o bryd, dw i’n cael gwersi gyda thiwtor ardderchog o’r enw Mari Jones gyda Dysgu Cymraeg Y Fro. Mi wnes i gymryd rhan yn rhaglenni Cariad@Iaith ar S4C a’r Big Welsh Challenge ar gyfer y BBC.
Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i’n ceisio defnyddio’r Gymraeg gydag unrhyw un dw i’n adnabod sy’n siarad yr iaith.
Dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth yw deall actorion yn siarad ar Pobol y Cwm a fy nghas beth yw gorfod brysio wrth siarad Cymraeg os yw pobl yn meddwl mod i’n siarad yn rhy araf.
Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
Darllen a gwylio’r teledu.
Dy hoff lyfr Cymraeg?
‘Sgŵp’, sef nofel ysgafn a doniol ar gyfer dysgwyr gan Lois Arnold. Mae geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen ond yn anffodus, does dim digon o amser gen i i ddarllen llawer o lyfrau Cymraeg.
Dy hoff air Cymraeg?
Bendigedig.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Gobeithiol, ffyddlon, caredig.