Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dewch i ddysgu mwy am Suzanne Packer

Dewch i ddysgu mwy am Suzanne Packer

Actores yw Suzanne Packer.  Mae hi’n enwog am chwarae rhan Tess Bateman yn Casualty rhwng 2003 a 2015.  Mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn dysgu Cymraeg ers 2003.  Dewch i ni ddod i wybod mwy amdani hi.

O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?

Dw i’n dod o Gaerdydd.  Mae fy rhieni yn dod o Jamaica ac mi wnaethon nhw symud i Gaerdydd yn 1959.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Dw i eisiau gweithio yn Gymraeg.  Roedd fy mab mewn ysgol Gymraeg am sbel felly dw i eisiau cefnogi ac ymarfer gyda fe. 

Sut/ble wnest ti ddysgu?

Ar hyn o bryd, dw i’n cael gwersi gyda thiwtor ardderchog o’r enw Mari Jones gyda Dysgu Cymraeg Y Fro.  Mi wnes i gymryd rhan yn rhaglenni Cariad@Iaith ar S4C a’r Big Welsh Challenge ar gyfer y BBC.

Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

Dw i’n ceisio defnyddio’r Gymraeg gydag unrhyw un dw i’n adnabod sy’n siarad yr iaith.

Dy hoff beth a dy gas beth?

Fy hoff beth yw deall actorion yn siarad ar Pobol y Cwm a fy nghas beth yw gorfod brysio wrth siarad Cymraeg os yw pobl yn meddwl mod i’n siarad yn rhy araf.

Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?

Darllen a gwylio’r teledu. 

Dy hoff lyfr Cymraeg?

‘Sgŵp’, sef nofel ysgafn a doniol ar gyfer dysgwyr gan Lois Arnold.  Mae geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen ond yn anffodus, does dim digon o amser gen i i ddarllen llawer o lyfrau Cymraeg.

Dy hoff air Cymraeg?

Bendigedig.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gobeithiol, ffyddlon, caredig.