Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dod i adnabod Dysgwr y Flwyddyn a’r perchennog busnes, David Thomas

Dod i adnabod Dysgwr y Flwyddyn a’r perchennog busnes, David Thomas

David Thomas ydy Dysgwr y Flwyddyn eleni, a David ar y cyd a’i ŵr, Anthony ydy perchnogion Jin Talog.

Ar 30 Tachwedd am 6yh, bydd David yn cynnal Fforwm Busnes dros Zoom i ddysgwyr.  Os dych chi eisiau ymuno yn y sesiwn, dych chi’n gallu cofrestru yma.

Pa mor bwysig oedd ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod AmGen 2021 i chi?

Mae'n golygu cymaint i fi yn bersonol.  Dw i wrth fy modd mod i’n gallu siarad yr iaith, ac roedd e'n anrhydedd cael fy enwebu, heb sôn am ennill.  Dw i'n ceisio gwneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr bod fy mlwyddyn fel Dysgwr y Flwyddyn yn cyfrif.

Dych chi’n teimlo bod hi’n syniad da cael cystadleuaeth fel hon?

Mae'n wych achos dylen ni barchu pobl sy'n ymdrechu i ddysgu'r iaith.  Ysbrydolwyd fi gan enillwyr eraill dros y blynyddoedd.  Maen nhw wedi dangos y ffordd.  Mae'r wobr yn ein hatgoffa bod meistroli'r iaith Gymraeg yn bosib.

Beth dych chi wedi ei fwynhau fwya am ddysgu Cymraeg?

Ble mae dechrau?  Mae'r broses o ddysgu'r iaith wedi bod yn ddiddorol iawn i fi.  Ond y peth pwysicaf yw fy mod i wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd.  Yn ychwanegol, dw i wedi darganfod a syrthio mewn cariad gyda diwylliant Cymru, sy mor werthfawr.

Beth oedd y sialens fwya i chi gyda dysgu Cymraeg?

Magu'r hyder i siarad y tu fas i’m cylch.  Ro'n i'n cael trafferth siarad gyda phobl eraill mewn siopau, gyda chymdogion ac ati pan ddechreuais i ddysgu.  Ond rhaid i fi ddweud mae pawb wedi bod mor gefnogol a charedig.

Pa gyngor sy gyda chi i ddysgwyr eraill, a sut fyddech chi’n eu hannog i barhau i ddysgu?

Yn gyntaf, byddwch yn realistig!  Mae dysgu iaith newydd yn gallu bod yn heriol, felly peidiwch â digalonni os chi'n cael trafferth nawr ac yn y man.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd pob cyfle posib i siarad, gwrando, a chael profiad o'r iaith.

Ar wahân i fynychu dosbarthiadau, pa bethau sy wedi eich helpu chi i ddysgu?

’Dyn ni’n lwcus achos mae'r iaith Gymraeg o'n cwmpas ni fan hyn yng Nghymru.  Mae Radio Cymru a S4C wedi helpu fi cymaint.  Felly roedd gwylio S4C yn aml a gwrando ar Radio Cymru yn y car neu yn y gegin yn help mawr i fi!  Dw i wedi dod i werthfawrogi rhaglenni S4C a Radio Cymru yn fawr iawn dros y blynyddoedd.

Sut mae’ch bywyd chi wedi newid ar ôl dysgu Cymraeg?

Ro'n i wastad yn teimlo bod rhywbeth ar goll gan nad oeddwn i’n gallu siarad yr iaith.  Mae dysgu siarad Cymraeg wedi trawsnewid fy mywyd.  Mae gallu darllen nofelau, gwrando ar gerddoriaeth a deall y newyddion yn Gymraeg wedi helpu fi i weld y byd mewn ffordd newydd.  Dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau a chysylltiadau newydd, ac o ystyried fy mod i'n byw mewn ardal wledig yn Sir Gaerfyrddin, mae'r iaith wedi helpu fi i deimlo’n rhan o'r gymuned.

Pwy ydy’r bobl sy wedi eich ysbrydoli chi i ddysgu?

Rhaid i fi sôn am y tiwtoriaid anhygoel dw i wedi cael dros y blynyddoedd, yn enwedig Llinos Davies, Gwen Davies, Carol Thomas, Dwynwen Teifi a Gwyn Nicholas.  Fe wnaethon nhw ddangos i fi bod unrhyw beth yn bosib.  Mae dysgu gyda phobl eraill yn bwysig iawn i fi.  Mae'n llawer o sbort dysgu gyda'n gilydd a gwneud ffrindiau newydd.  Hefyd mae Anthony, fy ngŵr wedi bod mor amyneddgar gyda fi!

Pa mor bwysig ydy’r Gymraeg yn eich busnes, faint o ddefnydd dych chi’n ei wneud o’r Gymraeg?

Heb os nac oni bai, mae'r iaith wedi bod yn allweddol i lwyddiant y busnes.  Mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi'r ffaith ein bod ni'n blaenoriaethu'r iaith.  Yn ogystal, maen nhw’n hoffi cael eu gwasanaethu trwy gyfrwng y Gymraeg, a pham lai?

Dych chi’n edrych ymlaen at y Fforwm Busnes i Ddysgwyr ar 30 Tachwedd?

Dw i wastad yn edrych ymlaen i gwrdd â phobl newydd ac i rannu fy stori.  Wedi dweud hynny, bydda i'n teimlo yn nerfus rhag ofn y bydda i'n gwneud gormod o gamgymeriadau, neu gael cwestiynau heriol.  Dw i'n beirniadu fy hun yn ormodol weithiau.  Dim pwysau arna i te...!