Cwrs Cymraeg Duolingo yn cyrraedd miliwn o ddefnyddwyr
Llai na dwy flynedd ar ôl cael ei lansio, ar ddechrau’r mis hwn fe gyrhaeddodd y cwrs Cymraeg ar Duolingo filiwn o ddefnyddwyr.
Dyma gam pwysig ar daith y cwrs a gobaith y gwirfoddolwyr sy’n datblygu a chadw’r cwrs yw y bydd hyn yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gyda 40% o ddefnyddwyr y cwrs yn byw yn y DU.
Mae Duolingo ar gael am ddim ac mae’n troi dysgu’n gêm, gyda chyfle i bawb sy'n berchen ar ddyfais ddysgu ble bynnag a phryd bynnag maen nhw eisiau.
Dyma fideo dysgwr yn siarad Cymraeg ar ôl defnyddio Duolingo.
Meddai Jonathan Perry, Tiwtor Cymraeg ac aelod o dîm Cymraeg Duolingo:
“Mae tîm gwirfoddolwyr y cwrs 'Welsh for English Speakers' ar Duolingo yn falch iawn o gyrraedd miliwn o ddefnyddwyr. Mae ap Duolingo yn cefnogi dysgwyr yma yng Nghymru ac mae e wedi galluogi i gannoedd o filoedd o bobl ddysgu'r Gymraeg ledled y byd.”
Meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cefnogi gwaith Duolingo:
“Hoffai’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol longyfarch Duolingo ar gyrraedd miliwn o ddefnyddwyr. Mae’r Ganolfan yn falch o gydweithio gyda Duolingo ac yn ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith parhaus i sicrhau fod yr adnodd cyffrous yma ar gael yn Gymraeg. Mae’r Ganolfan yn annog dysgwyr i ddefnyddio Duolingo i’w cynorthwyo i ddysgu Cymraeg.”
Ewch i www.duolingo.com am fwy o wybodaeth.