Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Duolingo yn cyrraedd miliwn

Duolingo yn cyrraedd miliwn

Cwrs Cymraeg Duolingo yn cyrraedd miliwn o ddefnyddwyr

Llai na dwy flynedd ar ôl cael ei lansio, ar ddechrau’r mis hwn fe gyrhaeddodd y cwrs Cymraeg ar Duolingo filiwn o ddefnyddwyr.

Dyma gam pwysig ar daith y cwrs a gobaith y gwirfoddolwyr sy’n datblygu a chadw’r cwrs yw y bydd hyn yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gyda 40% o ddefnyddwyr y cwrs yn byw yn y DU.

Mae Duolingo ar gael am ddim ac mae’n troi dysgu’n gêm, gyda chyfle i bawb sy'n berchen ar ddyfais ddysgu ble bynnag a phryd bynnag maen nhw eisiau.

Dyma fideo dysgwr yn siarad Cymraeg ar ôl defnyddio Duolingo.

Meddai Jonathan Perry, Tiwtor Cymraeg ac aelod o dîm Cymraeg Duolingo:

“Mae tîm gwirfoddolwyr y cwrs 'Welsh for English Speakers' ar Duolingo yn falch iawn o gyrraedd miliwn o ddefnyddwyr.  Mae ap Duolingo yn cefnogi dysgwyr yma yng Nghymru ac mae e wedi galluogi i gannoedd o filoedd o bobl ddysgu'r Gymraeg ledled y byd.”

Meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cefnogi gwaith Duolingo:

“Hoffai’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol longyfarch Duolingo ar gyrraedd miliwn o ddefnyddwyr.  Mae’r Ganolfan yn falch o gydweithio gyda Duolingo ac yn ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith parhaus i sicrhau fod yr adnodd cyffrous yma ar gael yn Gymraeg. Mae’r Ganolfan yn annog dysgwyr i ddefnyddio Duolingo i’w cynorthwyo i ddysgu Cymraeg.”

Ewch i www.duolingo.com am fwy o wybodaeth.