Disgrifiad llun isod, o'r chwith i'r dde: Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan; Colin Watkins, Rheolwr Gwlad DU Duolingo; Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; a'r tiwtor Dysgu Cymraeg, Richard Morse.
Trosglwyddo awenau cwrs Cymraeg Duolingo
i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Bydd cyfrifoldeb dros y cwrs Cymraeg poblogaidd ar Duolingo yn trosglwyddo i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
O fis Hydref 2021, bydd Adran Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Genedlaethol yn cymryd yr awenau oddi wrth y criw o wirfoddolwyr brwdfrydig, sydd, dan arweiniad y tiwtor Cymraeg, Richard Morse, wedi cynnal y cwrs ers iddo gael ei lansio ar Duolingo ym mis Ionawr 2016.
Mae’r datblygiad – y cyntaf o’i fath - yn rhan o fenter ehangach gan Duolingo i symud o fodel sy’n seiliedig ar wirfoddolwyr i gynnal rhai cyrsiau yn fewnol a datblygu eraill mewn partneriaeth â chyrff allanol megis y Ganolfan Genedlaethol.
Yn ôl Adroddiad Iaith Duolingo 2020, Cymraeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain, 44% yn uwch nag yn 2019 – o flaen Hindi, Siapanaeg a Ffrangeg. Mae’r Adroddiad yn dangos mai dysgwyr Cymraeg sydd ymhlith y rhai sydd mwyaf ymroddedig ac sy’n gweithio galetaf ledled y byd, gan ddod yn drydydd ar gyfer defnydd dyddiol ar gyfartaledd (longest average daily streaks), ac yn drydydd am y nifer fwyaf o wersi a gwblhawyd.
Mae llwyddiant y Gymraeg wedi parhau yn 2021, gyda’r iaith yn curo Rwsieg, Tsieineaidd a Phortiwgaleg i ddod y chweched iaith fwyaf poblogaidd yn y DU, tu ôl i Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg, Eidaleg a Siapanaeg. Ar hyn o bryd mae 476,000 o ddysgwyr gweithredol y Gymraeg. Mae dros 58% o’r dysgwyr diweddar yn y DU, 15% yn yr Unol Daleithiau, a 2% yn Awstralia a Chanada. Mae’r gweddill wedi’u rhannu fwy neu lai rhwng pob gwlad arall ar y ddaear, gyda dysgwyr unigol yn Ynysoedd Cook, Ynys Las a Burkina Faso.
Mae’r cwrs – sydd ar gael am ddim ar ap arobryn Duolingo ar apiau iOS ac Android ac ar duolingo.com - yn defnyddio profiadau gemau cyfrifiadurol i helpu dysgwyr i ymarfer a chryfhau eu sgiliau iaith.
Mae’r Ganolfan Genedlaethol yn barod wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr Duolingo i unioni’r cwrs gyda’r cwricwlwm Dysgu Cymraeg. Mae hefyd yn cyfeirio ei dysgwyr at Duolingo fel eu bod nhw’n gallu adolygu’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu yn y dosbarth.
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, wedi croesawu’r newyddion. Meddai: “Mae llwyddiant y cwrs Cymraeg ar Duolingo yn dangos bod galw go iawn i ddysgu’r iaith – dyma newyddion ardderchog wrth i ni weithio tuag at wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae Duolingo – ynghyd â’r tîm ymroddgar o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n galed i ddatblygu a chynnal y cwrs – wedi rhoi cyfleoedd i gymaint o bobl ledled y byd i ddysgu’r iaith, a hoffwn ddiolch iddynt yn fawr iawn.
“Wrth i Duolingo edrych i’r dyfodol, dw i’n falch iawn eu bod nhw wedi uno gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a enillodd ganmoliaeth yn ddiweddar mewn adolygiad annibynnol am ei gweledigaeth glir i gefnogi dysgwyr i ddod yn siaradwyr yr iaith. Bydd y bartneriaeth newydd yma yn creu hyd yn oed yn fwy o gyfleoedd i bobl fwynhau dysgu a defnyddio’r Gymraeg.”
Meddai Colin Watkins, Rheolwr Gwlad DU Duolingo: “Mae’r Gymraeg wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar Duolingo, diolch i waith ardderchog Richard a’r tîm. Gwirfoddolwyr, gan gynnwys ein cyd-sylfaenydd, Luis von Ahn, ysgrifennodd gyrsiau cynnar Duolingo, ond wrth i’r ap ddod yn fwy poblogaidd, ynghyd â’r nifer o ieithoedd sy’n cael eu cynnig, bellach dros 100 a mwy i ddod, roedden ni eisiau ffurfioli’r ffordd mae’r cyrsiau yn cael eu creu. Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n cydweithio gyda’r partneriaid cywir ac mae’r bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn berffaith. ’Dyn ni’n hyderus y bydd eu tîm yn gallu parhau gyda’r gwaith ardderchog a ddechreuwyd gan Richard a’r tîm.”
Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sydd wedi arwain y trafodaethau gyda Duolingo: “Mae cwrs Cymraeg Duolingo yn adnodd dysgu gwych ac mae ein dysgwyr wrth eu boddau yn ei ddefnyddio i ymarfer a chryfhau eu Cymraeg. Bydd y bartneriaeth newydd yma yn ein galluogi ni i unioni cwrs Duolingo yn agosach gyda’n cyrsiau, sydd ar gael ar bum lefel dysgu wahanol. Byddwn hefyd yn gallu hyrwyddo cyfleoedd dysgu i gymuned Gymraeg Duolingo, gan gynnwys cyrsiau rhithiol, modiwlau hunan-astudio ar-lein a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
“Hoffai’r Ganolfan Genedlaethol dalu teyrnged i’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar gwrs Cymraeg Duolingo – dan ni’n edrych ymlaen at barhau â’u gwaith da ac at groesawu a chefnogi hyd yn oed yn fwy o ddysgwyr Cymraeg.”
Diwedd
Nodiadau i’r golygydd:
- Mae dros 500 miliwn o bobl ledled y byd yn defnyddio platfform dysgu ieithoedd rhad ac am ddim Duolingo, a lansiwyd i’r cyhoedd ym mis Mehefin 2012.
- Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
- Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda 11 darparwr cyrsiau i gynnal dosbarthiadau rhithiol, dysgu ar-lein a chyrsiau sy’n cyfuno modiwlau hunan-astudio annibynnol gyda gwersi dan arweiniad tiwtor. Yn gynharach eleni, cafodd y Ganolfan ei hadolygu gan Estyn, a ganmolodd “...arweiniad cadarn a phendant y sefydliad, sy’n cadw budd dysgwyr yn ganolog i’w holl weithgarwch.”
Y Gymraeg ar Duolingo
Ym mis Mawrth 2015, ysgrifennodd Richard Morse a Kathy Dobbin (arweinydd ymgyrch i gael y Gymraeg ar Duolingo) lythyr at y Guardian i gefnogi cenhadaeth Duolingo. Fe ddarllenodd tîm cymuned Duolingo y llythyr a chysylltu â Richard i weld a fyddai’n gallu creu cwrs. Fe ddaeth Richard â chriw o wirfoddolwyr at ei gilydd a chreu’r cwrs a lansiwyd ar Ddydd Santes Dwynwen 2016. Ers hynny, mae’r cwrs wedi’i ddiweddaru i gynnwys nifer o sgiliau newydd, a dyma un o gyrsiau mwyaf Duolingo o ran nifer y geiriau mae’n bosib dysgu. Mae sgiliau newydd yn cael eu hychwanegu trwy’r amser, gan gynnwys llawer o gyfeiriadau eraill at Owen a’i bannas.